Fe wnaeth Ysgol Bro Teifi dderbyn adroddiad cadarnhaol o arfer gorau gan Estyn yn dilyn eu harolwg ddechrau’r flwyddyn.

Ym mis Chwefror 2019, bu Estyn yn cynnal eu hadolygiad cyntaf erioed o Ysgol Bro Teifi ers iddynt agor ym mis Medi 2016. Yn ystod yr adolygiad, canmolwyd arfer gorau yr ysgol am eu system nodi anghenion disgyblion a sut oedd hyn yn arwain at ddisgyblion yn derbyn gofal, cymorth ac arweiniad rhagorol.

Mae’r system mewn lle i nodi anghenion disgyblion fel y gallant gynnig darpariaeth barhaus ar eu cyfer. Mae’r system yn helpu olrhain cynnydd, ymddygiad, presenoldeb a lles. Gall disgyblion sydd heb ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac emosiynol yn ddigonol ymuno â “Clwb Cwtsh”. Yma, cânt gymorth ychwanegol i fagu eu hyder a datblygu hunanddelwedd gadarnhaol. Mae’r ysgol hefyd yn cynnal cysylltiad agos â’r cartref, sy’n golygu y gellir ymateb yn fwy uniongyrchol i bryderon am bresenoldeb isel.

Dywedodd Robert Jenkins, Pennaeth Ysgol Bro Teifi, “Wrth sefydlu’r ysgol yn 2016, adnabuwyd yn gynnar yr angen i greu strwythurau a oedd yn hwyluso siwrne’r disgyblion drwy eu cyfnod yn yr ysgol i fod mor esmwyth â phosib. Sefydlwyd system ffês, gyda Ffês 1 sef Meithrin i Flwyddyn 4, Ffês 2 sef Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8 a Ffês 3 sef Blwyddyn 9 i Flwyddyn 13. Mae hyn wedi arwain at systemau pontio a rhannu gwybodaeth effeithiol er mwyn sicrhau adnabyddiaeth orau o anghenion holl ddisgyblion yr ysgol ac felly at ddarpariaeth barhaus ar eu cyfer. Mae’r ffaith mai un cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol sydd ar gyfer yr ysgol gyfan yn cryfhau'r adnabyddiaeth o anghenion penodol disgyblion unigol a sicrhau teilwra rhaglenni ymyrraeth addas a chynnar ar eu cyfer.”

O ganlyniad i’r cymorth ychwanegol, mae disgyblion yn ymddwyn yn eithriadol o dda, yn parchu pobl eraill ac yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu.

Er mwyn targedu ymyrraeth briodol ac amserol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oed, mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o wybodaeth i olrhain cynnydd, ymddygiad, presenoldeb a lles. Mae’r ysgol yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer lles disgyblion i fod llawn mor bwysig â’r ddarpariaeth gwricwlaidd ac nad oes posib gwahanu’r ddwy agwedd.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion, “O ganlyniad i’r systemau trylwyr, mae’r ysgol yn darparu cymorth ychwanegol er mwyn rhoi pob cyfle i ddisgyblion i gyrraedd eu potensial. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau lefelau priodol o ymyrraeth sydd yn galluogi’r disgyblion i gael profiadau cwricwlaidd cyfoethog. Mae’r gwaith hwn yn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn i’r cwricwlwm yn ogystal â sicrhau cymwysterau priodol.”

Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol ddwyieithog ar gyfer disgyblion 3 i 19 oed gyda dros 900 o ddisgyblion. 

Ceir y wybodaeth llawn ar wefan Estyn: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/nodi-anghenion-disgyblion

 

27/11/2019