Bydd pobl fregus o dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael y cynnig o gefnogaeth well i aros yn eu cartrefi o dan strategaeth ddigartrefedd newydd yng Ngheredigion.

Cymeradwywyd Strategaeth Agor Drysau mewn cyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 27 Tachwedd 2018. Bydd y strategaeth yn ffocysu ar ddarparu tai ar gyfer pobl ddigartref a gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth gywir ar gael ar yr amser cywir iddynt pan mae ei angen fwyaf.

Fe wnaeth y strategaeth adolygu gwasanaethau presennol ac edrych ar ffyrdd gwell o weithio i atal a lleihau digartrefedd. Amlygodd yr adolygiad hefyd ffyrdd da a rhagorol o weithio sydd eisoes yn cael eu gwneud.

Bydd y Strategaeth Agor Drysau yn ffocysu ar bedair prif elfen.
• Rhwystro digartrefedd lle bynnag y bo modd.
• Gweithio gyda sefydliadau arall i leihau digartrefedd.
• Rhoi pobl yng nghanol gwasanaethau.
• Helpu pobl digartref i fod yn rhan o gymdeithas ac i gael mynediad da at wasanaethau.

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Ein gweledigaeth yw bod y Cyngor yn gweithio â phartneriaid i sicrhau ein bod yn atal digartrefedd lle bo modd, ac i helpu’r rhai sydd yn ddigartref i gael mynediad at dai sy’n fforddiadwy ac yn addas ar gyfer eu hanghenion. Rydym yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod pobl yn byw mewn tai sy’n addas at eu hanghenion.”

Agor Drysau bydd strategaeth ddigartrefedd y Cyngor am y pedair blynedd nesaf.

27/11/2018