Mae gan Geredigion Strategaeth Dai newydd ar gyfer 2018-2023. Cymeradwywyd y Strategaeth, ‘Tai i Bawb’ gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 25 Medi 2018.

Bwriad y weledigaeth sy’n cael ei osod yn y strategaeth yw gweithio tuag at lety digonol, addas a chynaliadwy i gwrdd ag anghenion trigolion nawr ac yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn nodi blaenoriaethau i wireddu hyn yn y meysydd cyflenwad a galw, cyllid a fforddiadwyedd, ansawdd tai a’r math o dai a’u haddasrwydd.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Mae cartref da yn amhrisiadwy i bob person a theulu; mae tai yn fwy cyffredinol yn bwysig er mwyn cynnal cymunedau sy’n ffynnu. Mae’r Strategaeth yn edrych i daclo’r heriau sy’n wynebu Ceredigion ac i fynd i’r afael â’r cyfleoedd sydd ar gael i ni trwy weithio â thrigolion a phartneriaid.”

Mae’r strategaeth yn helpu’r Cyngor weithio tuag at y blaenoriaethau corfforaethol o: hybu’r economi, Buddsoddi yn nyfodol y bobl, Galluogi cydnerthedd unigolion a theuluoedd a Hyrwyddo cydnerthedd amgylcheddol a chymunedol.

Bydd y strategaeth ar gael ar wefan y Cyngor ar 15 Hydref 2018.

01/10/2018