Y diweddaraf yng Ngheredigion ynghlŷn ag effeithiau Storm Dennis.

18.02.2020 @ 12:30

Mae'r tirlithriad ar y B4459 rhwng Capel Dewi a Llanfihangel-ar-arth wedi cael ei glyrio, ac mae'r heol ar agor i draffig. 

17.02.2020 @ 19:30

Mae Pont Llechryd wedi cael ei gau oherwydd pryderon diogelwch. Nid oes dyddiad ailagor y bont ar hyn o bryd. Mae arwyddion cau'r bont a llwybr dargyfeirio yn eu lle.

17.02.2020 @ 16:00

  • Mae pont Llechryd wedi ail agor.
  • Heol Coedmore/U5104 sy'n rhedeg yn baralel gyda afon Teifi, dal ar gau oherwydd bod yr heol dan ddwr.
  • B4459 dal ar gau rhwng Capel Dewi a Llanfihangel-ar-arth oherwydd tirlithriad.

17.02.2020 @ 13:00

  • Mae'r A484 trwy Llechryd bellach wedi agor i draffig. Mae pont Llechryd yn parhau i fod ar gau i draffig, ond mae lefelau afonydd yn gostwng.
  • Mae ffordd y B4333 yn Aberporth bellach ar agor.
  • Mae'r B4459 yn dal ar gau rhwng Capel Dewi - Llanfihangel-ar-arth oherwydd tirlithriad. Ar hyn o bryd, mae tîm ar y safle yn clirio'r malurion ac rydym yn gobeithio cael y ffordd ar agor bore yfory (18.02.2020).

16.02.2020 @ 21:00

Mae'r B4337 yn Nhalsarn wedi ail-agor.

16.02.2020 @ 07:30

Bu glaw trwm dros nos ac mae lefelau afonydd wedi codi. Mae rhybuddion llifogydd ar gyfer yr afonydd Aeron a Theifi, ac mae gennym griwiau allan yn delio â gyliau wedi'u blocio a llifogydd. Disgwylir i'r sefyllfa wella, ond bydd amodau gyrru yn parhau i fod yn heriol. Cynghorir i drigolion gadw golwg ar y rhagolygon.

Mae’r ffyrdd canlynol ar gau yng Ngheredigion

  • A484 yn Llechryd
  • B4333 yn Aberporth
  • B4337 yn Nhalsarn.

14.02.2020

Mae disgwyl iddi fod yn wlyb ac yn wyntog iawn ledled Cymru y penwythnos hwn yn sgil Storm Dennis, gyda rhagolygon o law trwm a chyson ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Cyhoeddwyd rhybudd melyn ar gyfer gwynt ledled Cymru, a chyhoeddwyd rhybudd ambr ar gyfer glaw ar draws rhannau o Geredigion, ac mae llifogydd dŵr wyneb yn debygol.

Cynghorir i drigolion gadw golwg ar y rhagolygon.

  • Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau ynghylch y tywydd: https://www.metoffice.gov.uk/ 
  • Os ydych yn poeni ynglŷn â llifogydd ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, ac ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf: cyfoethnaturiol.cymru

Mae criwiau ychwanegol wrth gefn er mwyn galluogi’r Cyngor i ymateb i unrhyw alwadau sy’n gysylltiedig â choed wedi cwympo a/neu lifogydd o ganlyniad i’r storm.

Bydd unrhyw ddiweddariad pellach yn cael eu rhoi ar y dudalen yma. 

14/02/2020