Y diweddaraf ar Storm Christoph yng Ngheredigion.

22/01/2021 @ 13:00

Rhybuddion Llifogydd

Nid oes Rhybuddion Llifogydd mewn grym, ond mae rhybudd byddwch yn barod. Mae'r diweddaraf ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Heolydd wedi ail agor

  • A44 yn Lovesgrove / Gelli Angharad
  • A484 Manyrafon ger Aberteifi
  • B4321 yn Llangrannog
  • B4337 yn Nhalsarn
  • C1010 Penrhyncoch o'r A487 i'r A4159

Heolydd ar gau

  • B4476 Abercerdin (bydd yn aros ar gau nes i’r Teifi fynd lawr)
  • C1013 Capel Dewi i Fanc y Darren (ar gau tan wythnos nesa)
  • Pont Llechryd Bridge

 

21/01/2021 @ 16:15

Rhybuddion Llifogydd

Mae'r diweddaraf am y Rhybuddion Llifogydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Heolydd wedi ail agor

  • A44 yn Lovesgrove / Gelli Angharad (un lôn bellach ar agor)
  • B4337 yn Nhalsarn
  • C1010 Penrhyncoch o'r A487 i'r A4159
  • B4321 yn Llangrannog 

Heolydd ar gau

  • A484 Manyrafon ger Aberteifi
  • B4476 Abercerdin (bydd yn aros ar gau nes i’r Teifi fynd lawr)
  • C1013 Capel Dewi i Fanc y Darren
  • Pont Llechryd Bridge (bydd yn aros ar gau nes i’r Teifi fynd lawr)

 

20/01/2021 @ 20:15

Rhybuddion Llifogydd

Mae Rhybuddion Llifogydd wedi cael eu cyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

  • Afon Aeron yn Aberaeron
  • Afon Teifi, Castell Newydd Emlyn
  • Afon Teifi, Cenarth
  • Afon Teifi, Llambed
  • Afon Teifi, Llandysul
  • Afon Teifi, Llanybydder
  • Afon Teifi, Llechryd

Disgwylir i lefelau afonydd godi heno, 20 Ionawr 2021.

Ffyrdd ar gau

Mae'r ffyrdd canlynol bellach wedi cael eu cau:

  • A44 yn Gelli Angharad (Lovesgrove)
  • A484 yn Manyrafon ger Aberteifi
  • C1010 Penrhyncoch o'r A487 i'r A4159
  • B4337, Talsarn
  • Pont Llechryd

 

20/01/2021 @ 15:30

Mae rhybuddion llifogydd ar gyfer yr Afonydd Aeron, Aberaeron a Teifi yn Llambed a Llanybydder. 

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau am sefyllfa’r tywydd, neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa rybuddion sydd mewn grym.

 

20/01/2021 @ 11:00 

Mae Ceredigion wedi gweld cyfnodau parhaus o law yn arwain at lawer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi o amgylch y sir.

Ffyrdd ar gau:

  • C1010 Penrhyncoch o'r A487 i'r A4159 oherwydd llifogydd

Bydd amodau gyrru yn parhau i fod yn heriol, felly cynghorir preswylwyr i fonitro'r rhagolygon.

20/01/2021