Philip yw mab Anna. Mae e wedi ei ddiagnosio ag awtistiaeth, oedi mewn datblygiad a chlefyd Crohn. Mae Anna wedi bod yn ofalwr llawn-amser i Philip ers ugain mlynedd a nawr hoffai gael y cyfle i ganolbwyntio ar ei datblygiad personol hi. Ei dyhead yw bod yn nyrs ar ôl cael lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi ymlaen.

Fodd bynnag, gall hi ond gwneud ei hastudiaethau os oes gofal a chymorth ychwanegol ar gyfer ei mab.  Gyda help Gwasanaeth Cymorth y Taliadau Uniongyrchol Ceredigion, gallai’r freuddwyd hon ddod yn wir cyn bo hir gan fod Anna wrthi’n chwilio am gynorthwywyr i ofalu am Philip.

Mae anghenion Philip yn rhai sylweddol a chymhleth a gyda’i ofynion deietegol arbennig mae gofalu amdano yn jobyn llawn-amser. Gan nad yw’r teulu’n barod i roi Philip mewn gofal preswyl, byddai cael cynorthwywyr personol i edrych ar ei ôl yn llawn-amser yn rhoi cyfle i Anna astudio a dilyn gyrfa.

Nid dyma’r tro cyntaf i Anna ddefnyddio Gwasanaeth Cymorth y Taliadau Uniongyrchol Ceredigion i gyflogi cynorthwywyr personol. Pan oedd Philip yn iau, nid oedd yr ysgolion lleol yn gallu cwrdd â’i anghenion felly yn lle ei anfon i ysgol breswyl arbennig ymhell o adre, dewisodd Anna ei addysgu gartref. Defnyddiodd hi Daliadau Uniongyrchol i gyflogi cynorthwywyr personol yn rhan-amser i chwarae â Philip a chynnig profiadau cymdeithasol iddo, gan roi seibiant i Anna.

Dywedodd Anna, “Mae llawer o bobl hyfryd a gofalgar wedi dod drwy’r drws dros y blynyddoedd. Arhosodd rhai gan ddod yn rhan o fywyd Philip am dair blynedd, chwe blynedd neu hyd yn oed am ddeg mlynedd a mwy. Arhosodd eraill am ychydig fisoedd yn unig ond daeth llawer ohonynt yn ffrindiau oes ac fel aelodau o’r teulu. Mae cael plentyn gydag anghenion ychwanegol yn gallu bod yn waith caled ac yn her, ond rwy’n ddiolchgar tu hwnt am yr holl bobl arbennig a ddaeth i mewn i’n bywydau i ofalu am Philip. Hefyd rwy’n gyffrous ynglŷn â dod i adnabod y cynorthwywyr personol newydd yr wyf wedi’u recriwtio i ofalu am Philip yn llawn-amser fel y gallaf gael fy mywyd fy hun yn awr.”

Sut beth yw bod yn Gynorthwy-ydd Personol?

Mae bod yn gynorthwy-ydd personol yn gallu rhoi llawer o foddhad. Mae cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy. Mae gofalwr yn gallu cael boddhad mawr o wybod fod yr help y mae’n ei roi yn gallu trawsnewid bywyd yr unigolyn sy’n cael cymorth, a bywyd ei deulu hefyd.  

Efallai nad ydych yn cael blas ar eich swydd bresennol ac yn chwilio am newid gyrfa. Efallai eich bod yn teimlo’n gaeth yn gweithio y tu ôl i gyfrifiadur bob dydd a’ch bod am fod yn fwy deinamig a chael effaith gadarnhaol ar eich cymuned. Os ydych yn un sy’n mynd ati o’ch pen a’ch pastwn eich hun ac eisiau helpu i newid bywyd rhywun, ac nid dim ond bywyd yr unigolyn rydych chi'n gofalu amdano ond hefyd bywyd y teulu o amgylch y person, mae’n bosib iawn y byddech yn hoffi cyflawni rôl cynorthwy-ydd personol.

Ar hyn o bryd mae 70 o unigolion yng Ngheredigion sy’n chwilio am gymorth a fyddai’n eu galluogi i fyw bywyd mwy annibynnol. Fel Cynorthwy-ydd Personol (neu PA i ddefnyddio’r talfyriad Saesneg) byddwch yn cael eich cyflogi’n uniongyrchol gan berson sy’n rheoli ac yn talu am ei ofal ei hun a hynny drwy daliad uniongyrchol gofal cymdeithasol.

I gael gwybod mwy am yrfa werth chweil fel Cynorthwy-ydd Personol, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/recriwtio-taliadau-uniongyrchol/

26/04/2022