Ar ddydd Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl - eglwys sy'n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu'r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy'n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a'r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

18/06/2018