Ar nos Sadwrn 12 Hydref, bydd yr entrepreneur a’r diddanwr,Stifyn Parri yn dychwelyd i Theatr Felinfach gyda’i sioe newydd Dim C’wilydd!

Ar ôl llwyddiant ysgubol ei sioe ‘CAU DY GEG!’ mae e nôl gyda chasgliad newydd sbon o gyfrinachau cefn llwyfan a hanesion ei fywyd lliwgar hyd yn hyn. Di-lol, di-flewyn ar dafod a di-g’wilydd.


Mae Stifyn yn byw bywyd unigryw dros ben, gyda gyrfa lewyrchus fel actor, canwr, cyflwynydd a chynhyrchydd. Mae e wedi cynhyrchu rhai o ddigwyddiadau mwya’ Cymru, wedi creu cymdeithas SWS (Social Welsh and Sexy) yn Llundain, Rwsia ac Efrog Newydd, wedi serennu yn y West End ac wedi gweithio gyda rhai o enwau mwya’r diwydiant, yn cynnwys sêr Hollywood a’r teulu brenhinol.


Casgliad camp o straeon am enwogion y byd 'showbiz' a hanesion drygionus hunangofiannol fydd cynnwys y sioe. Mae’n sioe un-dyn onest, ddrygionus ac unigryw gan un o gegau mwya’r wlad.


Bydd y noson yn cychwyn am 8 yh yn Lolfa, Theatr Felinfach.


Mae tocynnau ar gael am £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr a £10 i fyfyrwyr a disgyblion uwchradd dros 16. Maent ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein drwy ymweld â theatrfelinfach.cymru.


Canllaw Oedran: 16+

13/09/2019