Ar ddydd Iau, 19 Ebrill, fe ddathlodd Archifdy Ceredigion bod yr Archifdy wedi cael ei wobrwyo’r statws o Archifau Achrededig. Dadorchuddiwyd y plac ‘Gwasanaeth Archifau Achrededig’ gan Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Lynford Thomas.

Archifau Gwasanaeth Achrededig yw’r safon DU am wasanaethau archif. Mae’r cynlluniau safonau a fframweithiau yn helpu’r archifau i reoli a gwella eu heffeithlonrwydd ag effeithiolrwydd trwy ddilysiad allanol, ac i adnabod arfer da.

Croesawyd y mynychwyr gan Helen Palmer, Archifydd y Sir a Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion. Diolchodd i bawb a oedd yn rhan o ddatblygiad Archifdy Ceredigion, gan ddweud, “Diolch i’r Tîm Archifdy a Rheoli Cofnodion sydd wedi gweithio mor galed am gyfnod hir i wneud y gwasanaeth yma fel y mae heddiw. Dw i hefyd yn ymestyn diolch i staff y Cyngor o fewn adrannau arall fel TGCh a Gwasanaethau Technegol, sydd wedi helpu ein helpu ni i wireddu ein huchelgeisiau a’n helpu ni tuag at ein hachrediad.”

Parhaodd Helen, “Rhoddir diolch i ein rhoddwyr, am eu haelioni mewn rhannu dogfennau gwerthfawr gyda ni, hebddyn nhw, byddai gan ein casgliadau ddiffyg cynnwys ac amrywiaeth. Diolch i’n hymchwilwyr sy’n profi tro ar ôl tro bod ein gwaith yn ystyrlon, perthnasol ac yn bwysig.”

Mae Archifdy Ceredigion ar gael i bawb i’w ddefnyddio; ar gyfer ymchwil personol, prosiectau ysgol, gwaith gradd prifysgol, ymchwil academaidd, ac ymchwil er dibenion busnes. Gall Staff yr Archifdy awgrymu trywydd addas i waith ymchwil, a chyngor a chymorth ar sut i ddefnyddio'r dogfennau.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb i Gyllid, Technoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Cwsmer, “Mae’r Tîm Archifdy a Rheoli Cofnodion wedi gweithio’n galed ac mae eu hymroddiad wedi cael ei adlewyrchu yn y llwyddiant yma ac ar ran y Cyngor, rwy’n llongyfarch Helen a’i thîm am statws mawreddog yr Archifau Achrededig a roddwyd i Archifdy Ceredigion. Mae gan yr Archifdy casgliad ffantastig o ddogfennau, wedi eu cadw’n ofalus, sydd ar gael i unrhyw un sydd eisiau dod i’w gweld.”

Gallwch ymweld â gwefan yr Archifdy Ceredigion ar https://archifdy-ceredigion.org.uk/ neu ddilyn ‘Archifdy Ceredigion Archives’ ar Facebook.

24/04/2018