Yn ystod yr Hydref 2019 rhoddwyd cyfle i staff ac aelodau etholedig Cyngor Sir Ceredigion gymryd rhan mewn ‘Virtual Dementia Tour‘ (VDT). Drwy ddefnyddio offer arbenigol a chreu amgylchedd ffug, roedd y profiad yn rhoi cipolwg ar yr hyn y gallai dementia ei deimlo.

Dywedodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Ceredigion a Dirprwy Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae hwn wedi bod yn brofiad sy'n ysgogi'r meddwl. Mae'n caniatáu i gyfranogwyr deimlo sut beth fyddai fyw gyda dementia, yn gorfforol ac yn emosiynol, a chydnabod yr heriau i oresgyn y golled synhwyraidd honno."

Mae dementia yn syndrom (grŵp o symptomau cysylltiedig) sy'n gysylltiedig â dirywiad parhaus o ran gweithrediad yr ymennydd. Gall hyn gynnwys problemau o ran colli cof, cyflymder meddwl, miniogrwydd meddwl a chyflymdra, iaith, deall dyfarniad, hwyliau, symud ac anawsterau'n cyflawni gweithgareddau dyddiol.

Parhaodd Donna: "Mae'r ‘Virtual Dementia Tour’ yn nodi ffyrdd o wella'r cyfathrebu ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a ffyrdd y gall staff gofal a chymorth newid eu hymarfer i wella eu bywydau a'u helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae pob un o'n staff mewn cartrefi preswyl wedi cael eu hyfforddi i sicrhau bod pobl â dementia yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd cynhwysol."

Ewch i www.training2care.co.uk am ar y ‘Virtual Dementia Tour’.

 

07/11/2019