Cafodd diwrnod Shwmae Su’mae eu dathlu ar draws Cymru dydd Llun, 15 Hydref, i annog pobl i ddechrau pob sgwrs gyda ‘Shwmae’ neu ‘Su’mae’! I nodi’r diwrnod Shwmae Su’mae eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth coginio i staff yng Nghyngor Sir Ceredigion yn ystod eu sesiwn wythnosol o Glwb Cinio Cymraeg.

Mae’r Clwb Cinio Cymraeg yn sesiynau newydd sy’n rhoi’r cylfe i staff sy’n dysgu Cymraeg i gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg mewn lleoliad anffurfiol. Nod diwrnod Shwmae Su’mae yw dangos fod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd - siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’r rheini sy’n swil yn eu Cymraeg.

Huw Owen yw Swyddog Hyfforddiant Cymraeg Gwaith newydd y Cyngor ac yn dysgu gwersi Cymraeg yn y Gweithle i staff sydd ar wahanol lefelau o’u taith mewn datblygu eu rhuglder yn y Gymraeg. Sefydlodd Huw y Clwb Cinio Cymraeg llwyddiannus yn gynharach eleni. Dwedodd Huw, “Mae’r Clwb Cinio Cymraeg yn rhan hollbwysig o ddarpariaeth dysgu Cymraeg yn y Gweithle Cyngor Sir Ceredigion. Ffenomen gymunedol yw iaith ac mae’r cyfleoedd dysgu’n anffurfiol, wedi’u darparu gan y Clwb Cinio, yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr y Cyngor i gymryd eu Cymraeg yn ehangach na byd ffurffiol y dosbarth ac i ddod yn gymuned iaith Gymraeg. Mae llwyddiant y gystadleuaeth coginio ar ddiwrnod Shwmae Su’mae yn destament i ymroddiad a brwdfrydedd dysgwyr y Cyngor i ddysgu Cymraeg fel iaith maent yn gallu gweithio, byw ac i gael hwyl trwyddo.”

Blwyddyn ddiwethaf, cydnabuwyd 125 o aelodau staff am eu hymroddiad i ddysgu’r iaith gan fynychu dosbarthiadau rheolaidd. Eleni, gall staff barhau i dderbyn gwersi Cymraeg yn y Gweithle, yn ogystal â chyfleoedd ychwanegol i ymarfer yr iaith trwy’r Clwb Cinio Cymraeg a’r cynllun Ffrind Iaith. Mae’r Ffrind Iaith yn gyfle i ddysgwyr gwrdd â mentor o fewn y lleoliad gwaith sy’n siaradwr Cymraeg.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymroddedig i gefnogi’r iaith Cymraeg a’r diwylliant, ac rydym yn annog staff i gymryd y cynnig o ddatblygu eu Cymraeg gyda’r cyfleoedd dysgu deniadol yma. Mae’r Cyngor yn sicrhau eu gwasanaethau a’u gweithgareddau yn hyrwyddo a’n hwyluso’r defnydd o Gymraeg ledled y sir. Mae gan bob aelod o’r cyhoedd yng Ngheredigion yr hawl i ddewis pa iaith y dymunant ddefnyddio wrth gyfathrebu â’r cyngor ac mae’n ofynion i staff y Cyngor ymateb mewn ffordd gadarnhaol i’r dewis yma.”

19/10/2018