Wrth i holl wasanaethau manwerthu nad yw'n hanfodol ailagor o ddydd Llun 12 Ebrill, cofiwch siopa'n lleol a siopa'n ddiogel.

Mae cyfyngiadau coronafeirws wedi cael effaith ar fasnach busnesau lleol. Cofiwch brynu yn lleol i gefnogi busnesau Ceredigion i ffynnu unwaith eto.

Wrth ymweld â’n trefi a siopau, cofiwch ddilyn y rheolau wrth wisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol, ynghyd â golchi dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo. Mae parchu'r mesurau sydd gan fusnesau ar waith yn sicrhau eich diogelwch chi, yn ogystal â gweithwyr ac eraill sydd yn siopa.

Ar hyn o bryd mae parthau diogel ar waith er mwyn gwneud ein trefi'n fwy hygyrch ac yn llefydd mwy diogel i ymweld â hwy. Mae rhagor o wybodaeth am y Parthau Diogel ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/parthaudiogel

Argymhellir y dylai unrhyw berchennog busnes a hoffai gael gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael iddynt ymweld ag ardal y Coronafeirws ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/Coronafeirws a chwilio am y pennawd ‘Cefnogi Economi Ceredigion’.

Busnesau lleol yw calon cymuned Ceredigion. Gadewch i ni barhau i cefnogi busnesau Ceredigion wrth hefyd rhoi hwb i’n economi leol.

09/04/2021