Mae’r siop ‘Venus Barber’ ar Ffordd y Môr, Aberystwyth, wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig a Hysbysiad Gwella Mangre ar ôl methu â chydymffurfio â’r rheoliadau ar sawl achlysur.

Ymwelodd swyddogion o dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion â'r safle ar sawl achlysur i roi cyngor i’r busnes a cheisio eu cael i gydymffurfio â'r rheoliadau. I ddechrau, rhoddwyd Hysbysiad Cydymffurfio i'r busnes ar 16 Mawrth i'w hysbysu'n ffurfiol ei bod yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r rheoliadau. Rhoddwyd sicrwydd gan y busnes ar bob achlysur y byddent yn dilyn y cyngor ac yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau perthnasol.

Fodd bynnag, pan anwybyddwyd yr Hysbysiad Cydymffurfio a chanfuwyd bod y busnes yn parhau i beidio â chydymffurfio, ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur cymryd camau gorfodi pellach.

O ganlyniad, mae’r busnes bellach wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 a Hysbysiad Gwella Mangre. Mae gan y person cyfrifol 28 diwrnod i dalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig. Gall methu â chydymffurfio â’r Hysbysiad Gwella Mangre arwain at gyflwyno Hysbysiad Cau Mangre, hysbysiadau cosb benodedig pellach, neu’r ddau.

Gellir gweld yr Hysbysiad Gwella Mangre ar wefan Cyngor Sir Ceredigion - http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/

Ar hyn o bryd, caniateir i siopau barbwr a siopau trin gwallt agor, ond ar sail apwyntiad yn unig. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y busnesau hyn yn gallu darparu gwasanaethau torri/steilio gwallt i'r cyhoedd gan leihau'r amser y mae cwsmeriaid yn ei dreulio dan do gyda staff a chwsmeriaid eraill. Ar hyn o bryd, ni chaniateir i siopau barbwr a safleoedd trin gwallt gael cwsmeriaid yn aros ar y safle, a dim ond ar adeg eu hapwyntiadau y dylid caniatáu i gwsmeriaid fynd i mewn i'r safle.

Mae canllawiau i fusnesau barbwr a thrin gwallt ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ a gan Lywodraeth Cymru https://llyw.cymru/busnesau-trin-gwallt-barbwr-canllawiaur-coronafeirws-i-weithleoedd-html?_ga=2.267978190.1545479335.1616403853-1244726348.1612435918

25/03/2021