Mae Orig Williams neu El Bandito fel yr adnabu'r wreslwr o Gymro wedi cario’r ddraig i bedwar ban byd, wedi brwydro'r gwylltion gwyllta’, wedi ennill, colli, disgyn a chodi. Heb os nac oni bai, fe wnaeth e fyw i’r eithaf! Dyn ffair, dyn wreslo, dyn teulu, dyn mentro.

Mae Gai Toms wedi cyfansoddi chwip o albwm sy'n mynd â ni ar daith drimbwl-drambwl o fywyd Orig, o 'Balmant Aur' Ysbyty Ifan i'r rymbl yn y jyngl yn Calabar, Nigeria, gyda sain yr acordion, ffidil, trymped, trombôn a'r sacs yn llwyddo i roi'r ffync, yn ogystal â'r ffair i'r holl beth.

Perfformiwyd y sioe am y tro cyntaf yn Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy eleni ac mae’r cynhyrchiad wedi cael adolygiadau gwych a chanmoliaeth heb ei hail ers hynny. Dyma gyfle arbennig i weld perfformiad byw o’r albwm a bod yn rhan o noson fydd yn ddathliad o fywyd un o’n heiconau cenedlaethol.

Perfformir sioe ORIG yn Theatr Felinfach ar Nos Wener, 15 Tachwedd am 7:30 yh.

Mae’r tocynnau yn £13 i oedolion, £12 i bensiynwyr ac aelodau a £8 i blant a myfyrwyr ac ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar theatrfelinfach.cymru.

22/10/2019