Ar nos Lun 13 Mai yng Nghastell Aberteifi, cafodd criw o blant a phobl ifanc o dde'r Sir gyfle i berfformio sioe arbennig fel diweddglo i weithgareddau Clwb CICA’r Ffin sef clwb perfformio Cymraeg newydd yn ardal Aberteifi a gogledd Sir Benfro.

Bu 19 o blant a phobl ifanc rhwng 8 a 14 mlwydd yn cymryd rhan yn y perfformiad gan arddangos eu sgiliau actio a pherfformio trwy gyflwyno cyfres o frasluniau, deialogau a monologau gyda mwyafrif y gwaith wedi ei greu gan y plant eu hunain.

Sefydlwyd Clwb CICA’r Ffin ym mis Hydref 2018 gan Cered: Menter Iaith Ceredigion a Menter Iaith Sir Benfro mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac mewn cydweithrediad a Theatr Mwldan Aberteifi. Mae nifer fawr o blant yn ne Ceredigion a gogledd Sir Benfro eisoes yn perthyn i CICA (Criw Ieuenctid Cylch Aberteifi) sef cwmni perfformio sy’n perfformio sioe gerdd yn flynyddol fel rhan o weithgareddau Gŵyl Fawr Aberteifi.

Mae CICA fel arfer yn cyfarfod am gyfnod penodol rhwng mis Ebrill a Mehefin bob blwyddyn. Y bwriad o greu Clwb CICA’r Ffin oedd sefydlu clwb perfformio Cymraeg a fyddai’n cynnig cyfleoedd newydd i blant a phobl ifanc ar hyd y flwyddyn ac a fyddai hefyd yn paratoi plant a phobl ifanc i ymuno gyda CICA ar ddiwedd y flwyddyn.

Bu‘r Clwb, sydd yn cynnwys 2 grŵp oedran sef blwyddyn 4 i 6 a blwyddyn 7 i 9, yn cyfarfod bob yn ail nos Lun yn Theatr Mwldan, Aberteifi i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau i ddysgu sgiliau gwahanol gan gynnwys sesiynau dawns, cerddoriaeth, sgriptio, cefn llwyfan a pherfformio.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, “Bu’r sioe yn gyfle i ni weld yr hyn yr oedd y plant wedi ei ddysgu ac roedd hi’n hyfryd nodi eu bod wedi magu hyder nid yn unig i berfformio yn gyhoeddus ond hefyd i greu darnau eu hunain a’r cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Clwb yn gyfle i ni hybu’r Gymraeg mewn ffordd sydd yn llawn hwyl tra’n paratoi ac annog plant a phobl ifanc i ymuno gyda CICA sy’n cefnogi un o wyliau diwylliannol Cymraeg pwysicaf yr ardal.”

Bydd Clwb CICA’r Ffin yn ailddechrau ym mis Medi 2019. Am fwy o fanylion am Clwb CICA’r Ffin neu CICA cysylltwch â Cered ar 01545 572350 neu Menter Iaith Sir Benfro ar 01239 831129.

23/05/2019