Ydych chi eisiau bod yn un o Arwyr y Byd Gwyllt? Ymunwch â ni yn Llyfrgell Ceredigion dros wyliau’r Haf ac fe gewch chi gyfle i fod yn arwr go iawn, ac i wneud hynny trwy ddarllen!

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2021 yn dechrau yn holl Lyfrgelloedd Ceredigion ar ddydd Sadwrn Gorffennaf y 10fed. Bydd plant rhwng 4 ac 11 oed yn cael eu hannog i ymweld â’u llyfrgell leol dros wyliau’r Haf, gan ddarllen chwech neu ragor o lyfrau o’u dewis.

Eleni, Arwyr y Byd Gwyllt yw thema’r sialens, a bydd cyfle i blant ddarllen llyfrau ffeithiol neu storïau am warchod y blaned a byd natur, gan ddysgu am rai o faterion amgylcheddol pwysicaf ein cyfnod. Wrth i’r plant weithio’u ffordd drwy’r sialens, bydd cyfle iddynt gasglu nifer o wobrwyau gwych, gyda phob plentyn sy’n cwblhau’r Sialens yn derbyn tystysgrif a medal arbennig Arwyr y Byd Gwyllt.

Mae holl Lyfrgelloedd Ceredigion bellach ar agor i ddarllenwyr. Maent yn llefydd arbennig i blant, ac mae’r staff yn medru cynnig cyngor ac arweiniad gwerthfawr ar lyfrau o bob math i blant o bob oed. Er mai prif thema Arwyr y Byd Gwyllt yw byd natur a materion amgylcheddol megis llygredd plastig, ailgylchu, datgoedwigo, cynefinoedd mewn perygl, a gwarchod yr amgylchedd, mae croeso, wrth gwrs, i’r plant ddarllen unrhyw beth sydd at eu dant fel rhan o’r sialens. Ac mae digon o ddewis yma yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion – a’r cyfan yn rhad ac am ddim!

Yn ogystal ag ymweld â’r Llyfrgell ei hun, mae modd i’r plant fenthyg llyfrau yn rhad ac am ddim hefyd trwy apiau Borrowbox a Libby – gweler gwefan Llyfrgell Ceredigion er mwyn lawrlwytho‘r apiau. Mae gwefan ryngweithiol ddwyieithog Arwyr y Byd Gwyllt (www.WildWorldHeroes.org.uk) hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i’r plant gysylltu ag awduron a darlunwyr o fri, chwarae gemau, trafod hoff lyfrau ac i ennill gwobrau digidol am ddarllen. Byddwn hefyd yn cynnal dwy gystadleuaeth arall i gydredeg gyda’r Sialens eleni, y gyntaf yn gystadleuaeth ffotograffiaeth bywyd gwyllt, a’r ail yn gystadleuaeth i greu Palas Pryfaid (Bug Hotel) unigryw yn eich gardd ac i anfon lluniau ohono atom ni. Bydd mwy o wybodaeth i ddod am y gweithgareddau hyn ar ein tudalen Facebook ac ar ein gwefan, felly cadwch olwg allan amdanynt!

Dwedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Cyswllt Cwsmeriaid: “Ar ôl blwyddyn ddigon heriol i bawb, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i gynnal safonau llythrennedd plant dros wyliau’r haf, ac yn gyfle i blant ddal i fyny gyda’r llyfrau newydd gorau sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd ni yma yng Ngheredigion.”

Felly beth am fod yn Arwr y Byd Gwyllt eleni ac ymuno â ni yn Sialens Ddarllen yr Haf?

Ewch i https://libraries.ceredigion.gov.uk/client/cy_GB/cer_cy/ am fwy o wybodaeth.

06/07/2021