Mae sesiynau galw-heibio yn cael eu cynnal i bobl yng Ngheredigion a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn dilyn Storm Callum. Bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei gynnal yn Llambed ar 30 Hydref.

Bydd y sesiynau yn gyfle i bobl siarad ag asiantaethau sy’n gallu cynnig cefnogaeth a chyngor ar ddelio ag effeithiau llifogydd.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn:
• Ystafell Dewi 1, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llanbedr Pont Steffan ar 30 Hydref, 6-8yh.
• Swyddfa Tai Wales and West, Lôn yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AB ar 01 Tachwedd, 6-8yh.
• Gwesty’r Porth, Llandysul ar 07 Tachwedd, 6-8yh.
• Neuadd y Cwrwgl, Llechryd, 08 Tachwedd, 6-8yh.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae’r llifogydd wedi taro cartrefi a chymunedau yn ne Ceredigion yn arbennig o galed. Yn dilyn ymweliadau gan swyddogion y Cyngor i sicrhau diogelwch ac anghenion pawb yn dilyn y llifogydd diweddar, bydd y sesiynau galw heibio yma yn galluogi pawb sydd wedi cael eu heffeithio i dderbyn unrhyw gyngor a chymorth pellach sydd angen.”

Mae rhagofalon sylfaenol i’w dilyn wrth glirio ar ôl llifogydd. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/LlifogyddStormCallum.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar amryw o bynciau am lifogydd hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/94751

26/10/2018