Bydd cyfle i fusnesau a mudiadau Aberystwyth a Llambed fanteisio ar sesiynau gwybodaeth am ddim ac yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio a rhannu arfer da ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg.

Bydd Eleri Davies, sy’n rhedeg Maes Carafanau yn Mwnt, yn arwain y sesiwn am sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Bydd yna gyfle hefyd i drafod defnydd cyfredol y rhai sy’n mynychu o’r cyfryngau cymdeithasol, a rhannu syniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf bwysig ar gyfer marchnata. Mae cyfleoedd marchnata Cymraeg, megis Yr Awr Gymraeg (#yagym) ar Twitter, yn rhan o’r gymuned Gymraeg digidol sy’n cynnig cyfle i fusnesau gysylltu gyda chynulleidfa sy’n gwerthfawrogi’r ymdrech mae busnesau yn ei wneud i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, “Gall ddefnyddio’r iaith ar-lein gryfhau’r berthynas gyda chwsmeriaid, codi ymwybyddiaeth brand a gwneud i fusnes neu fudiad sefyll allan. Mae’n dangos fod busnes neu fudiad yn gefnogol i’r diwylliant a’r gymuned leol. Gyda’r cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn yn gyrru traffig at wefannau penodol, mae’n fodd i fusnesau a mudiadau ddatblygu perthynas gyda chwsmeriaid newydd. Gallant ennyn gwerthfawrogiad cwsmeriaid Cymraeg a di-gymraeg hefyd.”

Cynhelir Sesiwn Gwybodaeth Cyfryngau Cymdeithasol Aberystwyth ar Gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion ar 26 Tachwedd am 6yh.

Bydd Sesiwn Gwybodaeth Cyfryngau Cymdeithasol Llambed yng Nghanolfan Lloyd Thomas ar Gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed ar 29 Tachwedd am 5yp.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, “Gyda mwy a mwy o bwyslais ar hyrwyddo ar-lein, mae’r sesiwn hwn yn gyfle i ni gefnogi busnesau lleol ynghyd a’r economi leol a phwysleisio manteision sy’n bosib wrth ddefnyddio technegau gwahanol i bwysleisio eu hunigrywiaeth.”

Mae’r prosiect Cymraeg yn y Gweithle wedi derbyn cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi. Gweinyddir y prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion a fe’i hariennir drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020. Cyllidwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Trefnwyd y sesiynau gan dîm y prosiect ‘Cymraeg yn y Gweithle’, sy’n cael ei redeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion. Gellid cysylltu â’r Swyddogion Datblygu er mwyn cadarnhau lle, neu i dderbyn cymorth i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn busnes neu fenter, ar 01545 572 350.

01/11/2018