Cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion sesiwn cwestiwn ac ateb lwyddiannus yn Siambr y Cyngor ar 30 Medi 2022.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Aelodau’r panel oedd Ben Lake, AS; Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion; Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant; a’r Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gydol Oes a Lles.

Cafodd nifer o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion tebyg i Swyddi, Arian, Tai a Chyfleoedd, yr Iaith Gymraeg, Iechyd a Llesiant, Addysg a Dysgu.

Dywedodd Lloyd Warburton, Aelod Seneddol Ifanc Senedd Cymru dros Geredigion ac Aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion: “Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i gadeirio digwyddiad Pawb a’i Farn Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Roedd eistedd yn y gadair a gwrando ar gwestiynau pobl ifanc eraill ac atebion y swyddogion yn hynod ddiddorol, ac wedi profi i mi fod pobl ifanc Ceredigion wir eisiau gweld pethau’n newid am y gorau.”

Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gau gan Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, Lowri Morris, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, ac yn arwain y digwyddiad oedd Lloyd Warburton, Aelod Seneddol Ifanc Senedd Cymru dros Geredigion a chyn-ddisgybl Ysgol Penglais.

17/11/2022