Ar nos Iau 20 Mai, bydd Llyfrgell tref Aberystwyth yng Nghanolfan Alun R Edwards yn cael ei goleuo’n oren i nodi Pythefnos Gofal Maeth. Hefyd yn taflu goleuni ar y gwaith y mae gofalwyr maeth Ceredigion yn ei wneud mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn.

Mae Nathan, sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi creu darn gan ddefnyddio goleuadau LED i helpu i ddangos sut y gall unrhyw dŷ fod yn gartref diogel, llawn cariad.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, sef ymgyrch recriwtio a chodi ymwybyddiaeth genedlaethol gan y Rhwydwaith Maethu, rhwng 10 a 23 Mai eleni. Gan mai ‘#PamRydymYnGofalu’ yw thema eleni, rydym yn galw ar fwy o bobl i ystyried maethu.

Er bod llawer ohonom wedi derbyn cymorth ein teuluoedd a’n cyfeillion yn ystod y cyfnod anodd yr ydym wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae angen y cymorth hwnnw ar lawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru fwy nag erioed o'r blaen.

Ar ôl cael ysbrydoliaeth gan gerdd am ofalwyr maeth, dywedodd Nathan am ei ddarn celf: “Roeddwn i am greu rhywbeth sy’n dathlu’r modd y mae gofalwyr maeth yn agor drysau eu cartrefi – a’u calonnau. Dewisais droi’r geiriau hynny yn gelf gyda darn sy’n dynodi cartref fel y golau llythrennol ym mhen draw’r twnnel ar gyfer plant a phobl ifanc. Dwi’n credu mai un o’r mythau mwyaf am faethu yw bod yn rhaid i chi gael tŷ mawr gyda gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – nid yw hynny’n wir.”

Gellir gweld fideo sy’n dangos y darn yn dod at ei gilydd dros amser gyda’r gerdd yn cael ei darllen drosto drwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://fb.watch/5sRfTWPcxZ/

Gallwch chi dangos eich cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth trwy osod lamp yn eich ffenestr flaen nos Iau, 20 Mai i ‘daflu goleuni’ ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan ofalwyr maeth Cyngor Sir Ceredigion a dathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Borth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd Catherine: “Mae gofalwyr maeth yn darparu cymorth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd genedigol. Er efallai bod llawer ohonom wedi bod yn anhapus ynglŷn â threulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf gartref, ni all rhai pobl ifanc ond breuddwydio am gael yr ymdeimlad o ddiogelwch a chysur y mae ein cartref wedi ei roi i ni. Mae’n rhywbeth a all ymddangos y tu hwnt i gyrraedd rhai plant a phobl ifanc.”

Mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ofalu am blant o bob oedran, yn enwedig grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifanc, plant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: “Mae llawer o gamsyniadau ynghylch maethu. Er enghraifft, mae rhai pobl yn credu bod yn rhaid i chi fod mewn perthynas neu’n briod – neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun – ond nid yw hynny’n wir. Nid yw maethu’n ymwneud â newid y plant, mae’n ymwneud â gadael iddyn nhw fod yn nhw eu hunain a’u helpu i ddarganfod pwy ydyn nhw er mwyn iddyn nhw allu ffynnu. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a all gynnig ystod eang o brofiadau bywyd a gwaith i’r rôl.”

Os ydych chi’n credu y gallech wneud gwahaniaeth trwy fod yn ofalwr maeth, ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/diddordeb-mewn-mabwysiadau-maethu-seibiant-byr/maethu/

Dilynwch dudalennau Cyngor Sir Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Pythefnos Gofal Maeth i chwalu mwy o fythau a gweld lluniau o’r digwyddiad ‘taflu goleuni’ ar nos Iau, 20 Mai.

 

17/05/2021