Mae nifer o gartrefi wedi ceisio am gynllun newydd, Caron cynnes, ar ôl i sawl digwyddiad ymgysylltu cael eu cynnal yn ddiweddar yn Nhregaron, Pontrhydfendigaid, Ysbyty Ystwyth a Phont-rhyd-y-groes, Llanfair Clydogau, Llanddewi Brefi a Llangeitho.

Mae’r cynllun hwn ar gael i breswylwyr cymwys sy’n byw yn Nhregaron a’r pentrefi gwledig cyfagos gael system gwres canolog newydd wedi’i osod. Cartrefi sydd yn gymwys yw rhai sydd heb system gwres canolog eisoes, sydd ar incwm isel, sy’n byw mewn eiddo aneffeithlon o ran ynni.

Mae cymuned Tregaron yn gymuned wledig anghysbell, ac mae nifer o’r pentrefi cyfagos yn dibynnu ar y dref er mwyn cael adnoddau. Oherwydd natur wledig yr ardal, nid yw’r rhwydwaith nwy yn cyrraedd y gymuned hon, ac mae’n rhaid i breswylwyr sy’n byw yn yr ardal hon ddibynnu ar fathau drutach o danwydd, er enghraifft tanwydd solet, olew, neu nwy LPG, er mwyn gwresogi eu cartrefi. Yn ogystal â hyn, mae mwyafrif helaeth yr eiddo hwn wedi’u hadeiladu gyda ychydig neu ddim deunydd inswleiddio sydd yn arwain at gwres yn dianc drwy’r to, y waliau a’r ffenestri. Ceir costau tanwydd uchel o ganlyniad i hyn.

Ariennir y cynllun hwn drwy’r Gronfa Cartrefi Cynnes sy’n werth £150 miliwn. Cronfa genedlaethol yw hon a sefydlwyd gan y Grid Cenedlaethol ac a weinyddir gan y Cwmni Buddiannau Cymunedol, Affordable Warmth Solutions. Mae adain dai Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau’r arian drwy broses bidio gystadleuol. Bydd City Energy yn cydweithio â Chyngor Sir Ceredigion er mwyn darparu’r cynllun hwn ar eu rhan.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Tai. Dywedodd e, “Oherwydd bod costau tanwydd yn cynyddu, anelir y cynllun hwn at breswylwyr sy’n cael trafferth talu eu costau tanwydd er mwyn gwresogi eu cartrefi’n ddigonol. Mae sicrhau bod y cartref wedi’i wresogi’n ddigonol yn buddiol i iechyd a lles pob aelod o’r teulu.”

Mae’r cyngor yn cydweithio â Chyngor ar Bopeth Ceredigion, er mwyn i ymgynghorwyr profiadol ym maes budd-daliadau ac ynni yn cynnig cymorth unigol i breswylwyr ac yn eu helpu i gynyddu eu hincwm neu gael gafael ar arian, yn ogystal â darparu cymorth ymarferol ynghylch defnyddio ynni a sicrhau cartref cynhesach. Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth lansio prosiect newydd ym mis Tachwedd 2018 sydd hefyd yn cael ei ariannu gan y Gronfa Cartrefi Cynnes. Mae’r prosiect ‘Cartrefi Clyd Ceredigion’ yn cynnig cyngor a chymorth i bobl leol a allai fod mewn perygl o beidio â gallu fforddio gwresogi eu cartrefi.

Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Affordable Warmth Solutions, “Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous ynglŷn â’r buddsoddiad hwn gan y Grid Cenedlaethol ac rydym yn falch o gefnogi Cyngor Sir Ceredigion i ariannu’r cynllun a mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal. Mae datrys y problemau sy’n gysylltiedig â Thlodi Tanwydd yn parhau i fod yn her i nifer o’n rhanddeiliaid, ac mae’r adborth yr ydym eisoes wedi’i dderbyn yn dangos y bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn newid pethau er gwell i filoedd o gartrefi ym Mhrydain.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael system gwres canolog newydd, neu pe hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun, mae croeso i chi gysylltu â’r Adran Dai ar 01545 572 185 neu anfonwch e-bost at Housing@ceredigion.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â derbyn cyngor ar effeithlonrwydd ynni neu gynyddu incwm, neu er mwyn trefnu apwyntiad i dderbyn cyngor unigol drwy’r prosiect Cartrefi Clyd Ceredigion, ffoniwch Cyngor ar Bopeth Ceredigion ar 01239 621974 a gofynnwch am William neu Bronwen.

25/06/2019