Mae Safonau Masnach Cymru wedi cael ei hysbysu am dwyll ar ffurf neges destun sy'n ymwneud â'r Cyfrifiad cenedlaethol.

Dywedir wrth y bobl sy'n derbyn y neges fod gwybodaeth ar goll o'u Cyfrifiad wedi'i gwblhau a gofynnir iddynt glicio ar ddolen er mwyn cwblhau eu ffurflen neu byddant yn wynebu cael eu herlyn. Wrth glicio ar y ddolen cânt eu cyfeirio at safle sy'n edrych yn union yr un peth â ffurflen ar-lein y Cyfrifiad. Wrth lenwi’r ffurflen a’i chyflwyno, gofynnir i’r derbynnydd dalu ffi o £1.25. 

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Gwasanaeth Safonau masnach Cymru: “Mae galwadau a negeseuon twyllodrus i ffonau symudol yn broblem ddifrifol. Does dim byd cyfwerth â rhwystr galwadau ffôn llinell dir ar gyfer ffonau symudol er mwyn eu hatal rhag eich cyrraedd.

“Mae rhai o'r negeseuon hyn yn argyhoeddiadol iawn. Cofiwch, ni fyddai unrhyw asiantaeth llywodraeth yn anfon neges atoch yn mynnu arian trwy neges destun neu drwy neges ffôn awtomataidd.

“Os yw cwmni'n anfon dolen atoch trwy neges destun yn gofyn i chi glicio arni, dylech ei hanwybyddu. Os ydych yn ansicr gan fod gennych gyfrif gyda’r cwmni hwnnw, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol a pheidiwch â defnyddio'r ddolen a ddarperir.”

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i leihau nifer y galwadau a negeseuon testun twyllodrus rydych yn eu derbyn:

  • Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol osodiadau sy'n rhwystro rhifau. Chwiliwch ar y rhyngrwyd am "atal rhifau ar fy ffôn symudol (enw’r brand)” i gael rhagor o wybodaeth am eich ffôn neu fel arfer mae cyngor ar wefan darparwr eich ffôn symudol.
  • Gallwch gofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn
  • Rhowch wybod am y negeseuon hyn i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - 7726
  • Gwefan NCSC - Ebyst twyll (gwefan allanol Saesneg yn unig)
  • Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021 trwy ffonio 0800 169 2021 ar gyfer Cymru neu 0800 141 2021 ar gyfer Lloegr.

08/06/2021