Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw (15 Awst) gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gyrraedd safonau uchel. Mae 97.9% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A* i E, gyda 27.9% yn ennill graddau A*- A.

Mae disgyblion Ceredigion yn parhau i berfformio yn well na’r cyfartaledd ledled Cymru. Mae mwy o ddisgyblion yng Ngheredigion yn ennill graddau A* - A a graddau A* i E. Mae’r tabl isod yn dangos ffigyrau sy’n cymharu â gweddill Cymru. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru na chanlyniadau unrhyw fwrdd arholi arall heblaw CBAC.

 

Ceredigion 2019

Wales 2019

Gradd A* - A

27.9%

27.0%

Gradd A* - B

56.0%

n/a

Gradd A* - C

77.5%

n/a

Gradd A* - E

97.9%

97.6%

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Llongyfarchiadau didwyll a gwresog i fyfyrwyr chweched dosbarth Ceredigion ar eu llwyddiannau yn eu harholiadau Safon A ac AS unwaith eto eleni.

Mae’r canlyniadau hyn yn benllanw ar daith hir trwy fywyd ysgol sydd wedi meithrin a datblygu’r sgiliau academaidd a rhyngbersonol cyflawn er mwyn iddynt fedru camu’n hyderus i addysg uwch, hyfforddiant neu waith mewn meysydd o’u dewis. Dymunwn bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol ac estynnwn ein diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at bob rhan o’u taith ysgol.”

 

 

 

15/08/2019