Mae safle atgyweirio beiciau newydd gyda phwmp integredig wedi cael ei osod tu allan i Ganolfan Hamdden Plascrug yn ddiweddar. Gosodwyd y safle gan Gyngor Sir Ceredigion gan ddefnyddio arian grant o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.

Mae gan y safle nifer o wahanol offerynnau a lifrau teiars i helpu gwneud cywiriadau ac atgyweiriadau bychan ac mae ganddo bwmp integredig i lenwi teiars cadeiriau olwyn yn ogystal â beiciau. Darparwyd safle atgyweirio beiciau tebyg hefyd i Brifysgol Aberystwyth a fydd yn ei osod yn ger prif fynedfa Campws Penglais.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Reoli Carbon, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, “Mae’r safleoedd atgyweirio arloesol newydd yma yn siop un stop i seiclwyr wneud atgyweiriadau syml neu gywiriadau i’w beiciau. Maent wedi cael eu gosod mewn lleoliadau gwych yn Aberystwyth er cyfleustra. Mae hefyd yn bwysig iawn nodi y gellir llenwi teiars cadeiriau olwyn yn y safleoedd yma.”

Yn 2017, gosodwyd safle atgyweirio beiciau ger yr Orsaf Drenau a hefyd pwmp beiciau ar Stryd y Popty yn Aberystwyth. Mae’r datblygiadau yma yn dilyn arian grant i gefnogi mwy o Deithiau Llesol a llai o siwrneiau car.

17/04/2018