Bydd safle’r cyn Ysgol Cwrtnewydd yn cael ei ail-bwrpasu er mwyn cynnal Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dilyn penderfyniad Cabinet a wnaed ar 13 Chwefror 2018. Bydd y penderfyniad yn galluogi’r Gwasanaeth Ieuenctid i gynnig amryw o gyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 blwydd oed yn y sir.

Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig amrediad eang o gyfleoedd a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, darpariaeth gwyliau ysgol, clybiau ar ôl ysgol a chybiau ieuenctid. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad pobl ifanc trwy gefnogaeth arbenigol a darpariaeth mynediad agored er mwyn hybu pob person ifanc i gyrraedd eu potensial gorau, i dyfu hyder ac i gael y cyfle i osod disgwyliadau uchel o’u hunain.

Bydd y penderfyniad yn galluogi’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddarparu mwy o weithgareddau mewnol ac i leihau’r costau uchel sydd ynghlwm â threfniadau allanol. Bydd y penderfyniad hefyd yn sicrhau bod y ddarpariaeth a gynigir i holl bobl ifanc Ceredigion o'r ansawdd uchaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Bydd ail-bwrpasu safle Ysgol Cwrtnewydd i gynnal y Gwasanaeth Ieuenctid yn eu galluogi i adeiladu ar y gwaith gwych y maent yn gwneud gyda phobl ifanc Ceredigion. Mae hefyd yn galluogi’r Cyngor i wneud y defnydd gorau o’r adeiladau sydd ganddo.”

Wrth gymeradwyo defnydd Ysgol Cwrtnewydd gan y Gwasanaeth Ieuenctid, diddymodd y Cabinet benderfyniad a wnaed ym mis Tachwedd 2017 pan gymeradwywyd i’r safle gael ei osod ar y farchnad agored.

14/02/2018