Mae Nigel Jones a Roy Noble wedi gweithio gyda’i gilydd fel Wardeiniaid Cymunedol i Gyngor Sir Ceredigion am dros 12 mlynedd. Dyma fewnwelediad i’w rolau nhw a sut maent yn delio gyda materion pla ar draws Ceredigion.

Roy: Dechreuais ar y rôl hon dros 12 mlynedd yn ôl, ar ôl gweithio yn y maes yma am flynyddoedd lawer cyn hynny.

Roy: Dechreuais ar y rôl hon dros 12 mlynedd yn ôl, ar ôl gweithio yn y maes yma am flynyddoedd lawer cyn hynny.

Nigel: Roedden ni’n arfer bod yn dîm o bump, yn cynnwys wardeiniaid tymhorol yn gyfrifol am draethau yn yr haf, gyda help contractwyr ychwanegol er mwyn cyflawni ein dyletswyddau. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol dros gyfnod o sawl blwyddyn, dim ond y ddau ohonom ni sy’n gwneud y gwaith nawr.

Rhwng y ddau ohonom ni, rydym yn gyfrifol am ddifa pla ar ffermydd ac mewn cartrefi ar draws Ceredigion gyfan; mae Roy yn delio gyda’r holl ymweliadau â ffermydd tra wyf i yn delio gyda’r holl ymweliadau â chartrefi. Er hynny, mae yna adegau o hyd lle mae angen i ni helpu ein gilydd i ddelio â phroblemau plâu mewn ysgolion neu gartrefi, neu os oes rhaid gweithredu gwarant ar sefydliad sy’n bridio cŵn yn anghyfreithlon neu os oes rhaid casglu cŵn strae.

Rheoli Pla ar Ffermydd

Roy: Er mwyn sicrhau’r safonau angenrheidiol i gydymffurfio â chynlluniau yswiriant ffermydd, mae angen i ffermydd fod â chynlluniau yn eu lle i reoli plâu a chadw cofnodion o’r holl arolygiadau. Felly, fy swydd i yw rheoli’r nifer o lygod mawr. Fel y gallwch ddychmygu, rwyf wedi gweld llawer o lygod mawr dros y blynyddoedd!

Mae gen i dros 100 o ffermydd ar fy llyfrau. Rwy’n ymweld â phob fferm hyd at wyth gwaith y flwyddyn i sicrhau bod plâu fel llygod mawr, yn cael eu cadw dan reolaeth.

Un agwedd o’m rôl sy’n rhoi pleser mawr i mi yw cyfarfod gyda phobl; mae’r ffermwyr rwy’n ymweld â nhw yn grêt, maen nhw bob amser yn groesawgar ac yn werthfawrogol o’r gwasanaeth a ddarperir.

Angen gweithredu brys ar ar adegau

Nigel: Os oes ysgol neu gartref gofal yn ffonio gyda phroblem, rydym bob amser yn ymateb yn syth ac yn anelu at ddelio â’r mater cyn gynted â phosibl. Llynedd, bu’n rhaid i ni ddelio â haid o wenyn meirch a oedd wedi dilyn grŵp mawr o blant i mewn i ystafell ddosbarth. Yn ffodus, llwyddon ni i gyrraedd yno’n gyflym a delio â nhw cyn i ormod o blant gael eu pigo.

Cadw cartrefi yng Ngheredigion yn rhydd o bla

Nigel: Os mai haid o wenyn meirch sydd wedi dod drwy atig rhywun a meddiannu eu cartref neu os mai grŵp o lygod sydd wedi cnoi eu ffordd drwy rywbeth, mae pawb yn falch iawn pan gyrhaeddaf; cwrdd â phobl a'u helpu gyda'r materion hyn yw’r hyn rwy’n ei hoffi’n fawr am fy swydd. 

Mae fy niwrnod i bob amser yn dechrau yn y swyddfa yn Aberaeron, lle rwy'n casglu'r holl waith papur, sy’n cynnwys manylion y problemau pla y mae trigolion Ceredigion wedi cysylltu â'r Cyngor yn eu cylch, a threfnaf fy amser yn effeithiol, gan benderfynu i ba ardaloedd i fynd yn gyntaf. Mae Roy yn ffodus y gall ef drefnu ei ymweliadau fferm i dargedu un ardal ar y tro (er y bydd yn cael ei alw allan o dro i dro i ddelio â mater brys); mae fy nyletswyddau i o ddelio gyda chartrefi yn llawer llai systematig eu natur ac ni ellir rhagweld lle y byddaf o un diwrnod i’r llall. 

Llygod

Nigel: Peidiwch â thanbrisio llygod, efallai eu bod yn edrych yn fach, yn giwt ac yn ddiniwed; maen nhw’n llawn cymaint o boendod â phlâu mwy. Credwch neu beidio, mae llygod yn achosi mwy o niwed i eiddo nag unrhyw un o'r plâu eraill yr ydym yn delio â nhw; maen nhw'n bwyta llawer mwy na'r bwyd yn eich cegin! Mewn adeiladau modern,defnyddir pibau dŵr plastig fel rheol yn hytrach na phibau copr; gall llygod gnoi eu ffordd drwy'r rhain a gwelwn hyn yn digwydd yn aml.

Roy: Rwy'n ein cofio ni’n dau’n ymweld ag ysgubor a oedd newydd gael ei haddasu; roedd y perchnogion wedi mynd ar wyliau am bythefnos, daethant yn ôl i ddarganfod y lle’n morio oherwydd bod llygod wedi cnoi drwy'r pibau dŵr. Gall llygod sleifio i mewn i eiddo trwy dyllau aer neu unrhyw fath o fwlch yn y welydd, sy’n ddigon mawr iddyn nhw wasgu drwyddo. 

Gall llygod fod yn broblem drwy gydol y flwyddyn ond mae'r broblem yn dueddol o waethygu yn ystod misoedd y gaeaf, pan ddaw’r llygod i mewn o'r oerfel a’r gwlybaniaeth i geisio cartref mwy clyd y tu mewn i eiddo pobl gyda’r fantais ychwanegol o bryd blasus neu ddau.   

Gwenyn meirch

Nigel: Gwenyn meirch yw’r un pla y mae angen delio ag ef cyn gynted â phosibl.  Mae gwenyn meirch yn bwrw ati’n hapus i adeiladu eu nyth ym mis Mehefin ac yn tueddu i adael llonydd i bobl dros yr haf ond tua diwedd yr haf, pan fydd y tywydd yn oeri, byddwch yn ofalus! Mae'n stori wahanol wedyn. Bydd y gwenyn meirch wedi cwblhau eu nythod a chanddynt ddim byd gwell i'w wneud na’ch pigo chi!

Os deuwch o hyd i nyth ond ei gadael tan ddiwedd yr haf, gall delio â hi fod yn broblem fawr.

Roy: Ac nid dyna ddiwedd y mater – fe wnan nhw gropian dros bob man i ddod o hyd i le addas i orwedd yn segur dros y gaeaf.

Nigel: Erbyn diwedd yr haf gall nyth gwenyn meirch fod yn enfawr, cyn hyn rydw i hyd yn oed wedi gweld nyth a oedd yn fwy o faint na fi.

Roy: Gall gwenyn meirch ddechrau adeiladu eu nyth unrhyw le o gwmpas y tŷ, rwyf wedi gweld rhai y tu mewn i wyntyll echdynnu, mewn piben sychwr dillad, tu mewn i dwll aer ar ochr atig, y tu mewn i'r atig. Gallant ddod i mewn rhwng distiau’r tŷ, rhwng eich nenfwd ac yna gallant ddechrau dod allan yn yr ystafelloedd gwely, yr ystafelloedd ymolchi; ble bynnag y gallwch feddwl amdano, byddant yno, ym mhobman – gallwch fod yn siŵr y daw’r gwenyn meirch o hyd i unrhyw fwlch yn y tŷ lle gallant deithio i mewn ac allan ohono ac yna fe ddechreuan nhw adeiladu eu nyth!

Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw hefyd y tu allan i'ch eiddo, yn hongian o'r bondo. Deuir o hyd i nythod yn rheolaidd hefyd mewn siediau gardd. 

Cynhyrchion a Gwasanaethau

Nigel: Ni ddylai pobl ddefnyddio'r math o gynhyrchion rheoli pla y gellir eu prynu dros y cownter; gan fod y deddfau wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf a bod cryfder rhai o'r cynhyrchion hyn wedi ei haneru - nid ydynt mor gryf ag yr oeddent ac  i bob diben mae pobl mewn gwirionedd yn bwydo eu plâu ac felly’n gwaethygu'r broblem a gall hyn fod yn gostus iawn.

Ar hyn o bryd dyma’r prisiau y mae Cyngor Sir Ceredigion yn eu codi i ddelio gyda’r plâu mwyaf cyffredin:

  • £52 ar gyfer llygod a llygod mawr
  • £68 ar gyfer gwenyn meirch
  • £90 ar gyfer plâu eraill, er enghraifft, chwain, pỳcs a chwilod duon.

Mae'r prisiau hyn yn cynnwys pob agwedd o'r gwasanaeth a ddarperir, nid oes unrhyw gostau ychwanegol cudd, o’i gymharu â rhai cwmnïau rheoli pla preifat, sy'n aml yn ychwanegu costau at eu ffi gychwynnol.

Budd arall o ddefnyddio ein gwasanaethau ni, yn hytrach na chwmni preifat yw hyn, os cawn ein galw i ddelio gyda phroblem mewn eiddo sy'n rhan o set o dai teras neu eiddo cysylltiedig, byddem yn edrych ar yr holl eiddo ar y stryd honno i geisio darganfod tarddle’r broblem.  Rydyn ni'n treulio llawer o amser yn ceisio sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys yn llawn ac nad yw'r broblem yn mynd i godi ei phen eto’n syth: golyga hyn weithiau ein bod yn edrych ar y carthffosydd cyfagos os oes angen. Weithiau mae angen i ni ymweld ag eiddo hyd at bedair gwaith, ac mae’r cyfan wedi'i gynnwys yn y pris cychwynnol.

Os credwch fod gennych broblem pla, peidiwch â gadael iddi waethygu.  Cysylltwch â ni trwy ffonio CLIC, canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor ar 01545 570 881 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar-lein ar wefan y Cyngor. Bydd eich mater yn cael ei logio a'i gyfeirio atom er mwyn i ni ddelio ag ef. Mae croeso i breswylwyr ffonio a chael cyngor am ddim gan y Wardeiniaid Cymunedol.

Rydym bob amser yn anelu at ymweld â phreswylwyr o fewn 3 diwrnod i dderbyn eu galwad.

Edrychwch ar www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/difa-plâu/ am ragor o wybodaeth

17/01/2019