OS nad ydym yn cadw pellter cymdeithasol, rydym mewn perygl o fod o dan gyfyngiadau symud lleol - dyna'r neges gan arweinwyr awdurdodau lleol de-orllewin Cymru, y bwrdd iechyd a Heddlu Dyfed-Powys.

OS nad ydym yn cadw pellter cymdeithasol, rydym mewn perygl o fod o dan gyfyngiadau symud lleol - dyna'r neges gan arweinwyr awdurdodau lleol de-orllewin Cymru, y bwrdd iechyd a Heddlu Dyfed-Powys.

Mae partneriaid yn rhanbarth Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion wedi ymuno i annog pobl i ddilyn y cyngor cenedlaethol a chymryd camau i ddiogelu ei gilydd wrth i achosion positif o Covid-19 ddechrau cynyddu eto.

Maent yn rhybuddio pobl yn benodol am y risg o ymgynnull mewn grwpiau mawr, mynychu digwyddiadau cymunedol neu ymweld â safleoedd trwyddedig lle nad yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Mae arweinwyr awdurdodau lleol yn yr ardal yn annog pawb i chwarae eu rhan i gadw eu siroedd a'u cymunedau'n ddiogel. Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, a'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion: "Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru. Ond, os bydd y bygythiad yn cynyddu a'r diffyg cadw pellter cymdeithasol yn parhau, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni gymryd y camau angenrheidiol. Mae'r pandemig hwn ymhell o ddod i ben - mae'r feirws yn mynd ar led o hyd ac mae'r risg yn dal yn uchel. Mae angen i bobl barchu'r mesurau sydd ar waith ar waith a chymryd cyfrifoldeb personol dros gadw pellter cymdeithasol a hylendid da.”

"Helpwch i gadw cymunedau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ddiogel – mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhaid i amddiffyn ein hunain a'n gilydd."

Daw eu rhybudd ar ôl i glwstwr o achosion positif o Covid-19 gael eu cadarnhau yn Sir Gaerfyrddin, yn sgil digwyddiad cymunedol.

Y cyngor cenedlaethol ynghylch cadw pellter cymdeithasol o hyd yw y dylai pobl aros dau fetr oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn rhan o'u haelwyd eu hunain, neu eu haelwyd estynedig, wrth gyfarfod yn yr awyr agored ac mewn mannau caeedig.

Dylai pobl osgoi ymgynnull mewn grwpiau mawr a bach mewn mannau cyhoeddus, ac osgoi ymgynnull dan do gyda ffrindiau a theulu ar wahân i'r bobl y maent yn byw gyda hwy neu'r rhai yn eu haelwyd estynedig.

Gellir gweld gwybodaeth a mesurau pellach ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym wedi bod yn ffodus iawn yng Ngorllewin Cymru o ran ein cyfraddau heintio cymharol isel o COVID-19. Roedd hyn o ganlyniad i ymdrechion arbennig y cyhoedd i ddilyn canllawiau diogelwch a oedd yn atal y clefyd hwn rhag lledaenu.

“Nid yw'r Coronafeirws wedi diflannu ac mae'n parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. Byddwn yn annog y cyhoedd i barhau i ddilyn cyngor iechyd i'n cadw'n ddiogel, gan gynnwys cadw dau fetr oddi wrth bobl eraill y tu allan i'w swigen deuluol, lleihau cysylltiadau ag eraill lle y bo'n bosibl, osgoi cwrdd mewn grŵp o fwy na 30 o bobl, yn ogystal â golchi dwylo'n rheolaidd, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad yw golchi dwylo'n bosibl.”

“Mae cynnal yr arferion hyn yn gwbl hanfodol er mwyn lleihau effaith a lledaeniad y pandemig. Mae'r cyhoedd hefyd yn bartner hollbwysig yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Dim ond gyda'ch cefnogaeth a'ch parodrwydd chi i roi gwybod am symptomau, nodi cysylltiadau a dilyn cyngor am hunanynysu y gallwn nodi a mynd i'r afael ag unrhyw achosion newydd a diogelu ein gilydd."

 

09/09/2020