Mae achosion coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol yn ardal Aberystwyth dros y pum niwrnod diwethaf.

Nid yw nifer yr achosion cadarnhaol ar draws y Sir bob dydd erioed wedi bod mor uchel ag ydyw ar hyn o bryd. Mae'n dangos i ni pa mor hawdd y gall y feirws ledaenu.

Y gyfradd bresennol yng Ngheredigion yw 154.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth (o 1pm, 04 Rhagfyr 2020).

Mae tystiolaeth wedi dangos, pan fydd cymunedau'n dod at ei gilydd ac yn dilyn canllawiau'r coronafeirws, y gellir arafu cyfradd a lledaeniad y feirws. Roedd hyn yn amlwg i'w weld yn ardal Aberteifi ac rydym bellach yn gofyn i'n trigolion yn ardal Aberystwyth wneud yr un peth.

Mae'r grŵp oedran amlycaf ar hyn o bryd i brofi'n bositif yn ardal Aberystwyth ymhlith pobl yn eu 20au. Ceir enghreifftiau lle maent wedi cael sawl cyswllt cymdeithasol mewn gwahanol leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau yn y gwaith ac yna cwrdd â gwahanol grwpiau o bobl mewn lleoliadau cymdeithasol.

Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni'n eu gweld, ond mae cyfyngu eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw nifer y bobl sydd â'r feirws i lawr a dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion bob amser yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw ein trigolion yn ddiogel a bydd yn cymryd camau pendant pan fo angen. Mae ein Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac wedi cyflwyno sawl hysbysiad dros yr wythnosau diwethaf lle mae angen gwella.

Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Fodd bynnag, mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi clywed gan sawl achos positif bod ganddynt ychydig o symptomau neu ddim symptomau ar y dechrau. Mae llawer ohonynt yn dweud mai'r arwyddion cyntaf yw pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eich profi. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddynt unrhyw symptomau - ystyriwch a diogelwch gymaint ag y gallwch bawb yn swigen eich aelwyd.

Ond, mae'n rhaid i chi chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau:

  • Cadw pellter cymdeithasol o 2m oddi wrth eich gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gall aelwydydd ffurfio 'swigen' gyda'i gilydd - ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i'r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19. Byddwn yn diogelu'r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn galluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

05/12/2020