Cyhoeddwyd hysbysiad diogelwch ynglŷn â phwmpen polystyren i’ch cerfio eich hun ac mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion yn tynnu’r mater i sylw siopwyr.

Roedd y pwmpen polystyren ar werth yn siopau Poundland tan yn ddiweddar, tan y cafodd y cynnyrch ei dynnu o’r silffoedd ar ddechrau’r wythnos hon, 22 Hydref 2018.

Mae Poundland yn rhybuddio cwsmeriaid i beidio defnyddio’r cynnyrch hwn gyda chanhwyllau o unrhyw fath a rhaid ei gadw yn bell o unrhyw dân. Mae pob croeso i gwsmeriaid sy’n pryderu am y cynnyrch ddychwelyd yr eitemau i’r siop am ad-daliad llawn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, “Mae’r bwmpen polystyren yn peri risg gwirioneddol o dân os ydynt yn cael eu gosod ger unrhyw ganhwyllau, ffynonellau gwres neu daniad. Rydym wir yn annog unrhyw un a allai fod wedi prynu un o’r rhain, neu’n gwybod am rywun arall sydd wedi, i’w ddychwelyd ar unwaith i gael ad-daliad llawn.”

Mae’r fideo yma’n dangos pa mor gyflym y gall y pwmpen polystyren fynd ar dân: 

http://bit.ly/PolystyrenePumpkinsOnFire

 

25/10/2018