Disgwylir gwyntoedd cryfion dros y penwythnos wrth i Storm Arwen daro rhannau o Gymru, gan gynnwys Ceredigion.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan Rhybudd Ambr sydd mewn grym rhwng 00:00 dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021 a 09:00 dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021. Bydd rhybudd melyn hefyd mewn grym tan 18:00 ddydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021.
Atgoffir pobl i fod yn ofalus wrth deithio oherwydd gall y gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd, a dylai pobl gadw draw o ardaloedd arfordirol agored gan y bydd hyrddiadau’r gwynt yn gryf iawn. Gofynnir i’r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.
Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar rai gwasanaethau eraill.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: Met Office
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i Geredigion yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
26/11/2021