Ddydd Iau 06 Mawrth, bydd trigolion Ceredigion yn bwrw eu pleidlais i ddweud eu dweud ar bwy sy’n eu cynrychioli nhw yn y Senedd ac fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
I’r rheini sy’n pleidleisio’n bersonol, bydd gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio ynddynt. Anogir pleidleiswyr i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel drwy wneud y canlynol:
- Gwisgo masg wyneb
- Dod â’u beiro neu bensil eu hunain
- Golchi eu dwylo wrth gyrraedd ac wrth adael yr orsaf bleidleisio gan ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir
- Cadw pellter diogel
- Peidio â mynd i mewn i’r orsaf bleidleisio os nad ydynt yn teimlo’n dda.
Ni ddylai pleidleiswyr fynd i’r orsaf bleidleisio os oes ganddynt symptomau Covid-19 neu os gofynnwyd iddynt hunanynysu. Mae gan unrhyw berson sy’n datblygu symptomau, neu y gofynnir iddo hunanynysu ychydig cyn y diwrnod pleidleisio, hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio i wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy. Mae hyn yn caniatáu iddynt enwebu rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan.
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 06 Mai. Mae’n rhaid i bleidleiswyr sydd wedi dewis pleidleisio drwy’r post ddychwelyd eu papur pleidleisio drwy’r post erbyn 10pm; gallant ei gyflwyno yn eu gorsaf bleidleisio os nad oes ganddynt amser i’w ddychwelyd drwy’r post.
Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Os ydych yn dewis pleidleisio’n bersonol, helpwch i gadw eich hunain ac eraill yn ddiogel drwy ddilyn y mesurau diogelwch sydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys diheintio eich dwylo a chadw pellter diogel oddi wrth eraill. Sicrhewch eich bod yn gwirio’r wybodaeth ar eich cardiau pleidleisio, oherwydd gallai eich gorsaf bleidleisio fod wedi newid ers yr etholiad diwethaf.”
I weld a yw eich gorsaf bleidleisio wedi newid, edrychwch isod.
- Festri Capel Cwmystwyth i Ysgol Gynradd Mynach, Pontarfynach, Aberystwyth SY23 4QZ
- Capel Tynygwndwn, Talsarn i Neuadd Goffa, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan SA48 8AE
- Seindorf Arian, Coedlan y Parc, Aberystwyth i Dŷ’r Harbwr, Y Lanfa, Aberystwyth SY23 1AS
- Seindorf Arian, Coedlan y Parc, Aberystwyth i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra, Aberystwyth SY23 2NN
- Yr Hen Ysgol, Cross Inn i Ganolfan Gymunedol Pennant, Llanon SY23 5PA
- Mês Bach, Comins-Coch i Ysgol Gynradd Comins-Coch, Comins-coch, Aberystwyth SY23 3BQ
- Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn, Bryngwyn SA38 9PL
- Caffi Sali Mali, Blaenpennal i Festri Capel Bronant, Bronant, Aberystwyth SY23 4TG
- Festri Capel Pisgah i Neuadd Goffa Talgarreg, Talgarreg, Llandysul SA44 4ET
- Neuadd y Pentref, Aberporth i Ganolfan Dyffryn y Banc, Aberporth SA38 3EU
- U.T.S Adpar i Glwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, Dol Wiber, Adpar SA38 9AZ
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r etholiadau ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/. Mae hefyd yn werth cadw llygad ar dudalennau’r Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol, sef @CeredigionCC ar Facebook a Twitter ac @CaruCeredigion ar Instagram.
23/04/2021