Mae Arweinwyr Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru wedi rhannu eu gweledigaeth ar gyfer economi Canolbarth Cymru a datblygu Bargen Dwf Canolbarth Cymru gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Y Cynghorwyr Rosemarie Harris ac Ellen ap Gwynn yw arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yn ogystal â Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Bu iddynt rannu eu gweledigaeth gyda’r Aelod o’r Senedd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yr Aelod o’r Senedd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a’r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ar 11 Mehefin 2020.

Yn ystod y trafodaethau adeiladol a gafwyd mewn cyfarfod rhithiol ar 11 Mehefin 2020, trafodwyd ystod o bryderon, gan gynnwys effaith y pandemig presennol a sicrhau bod y Fargen Dwf yn chwarae ei rhan yn y strategaeth ehangach o adfer a thyfu economi Canolbarth Cymru yn y dyfodol.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorwyr Harris a Gwynn: “Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, ond yn bosibl. Rydym wedi cydweithio’n agos â busnesau ar draws Canolbarth Cymru i roi ein gweledigaeth at ei gilydd.

Mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn modd na welwyd mo’i debyg o’r blaen. Rydym eisoes yn gweld effeithiau economaidd sylweddol yn fyd-eang, yn genedlaethol ac ar draws Canolbarth Cymru.

Yn hytrach na rhoi’r Fargen Dwf i’r neilltu am y tro er mwyn deall yr effaith hon mewn mwy o fanylder, mae’n hollbwysig ein bod yn braenaru’r tir yn awr ar gyfer y gwaith adfer a fydd ei angen yn dilyn hyn.

Mae gallu rhannu ein gweledigaeth yn gam cyffrous. Ein cynllun yw defnyddio’r Fargen Dwf i negodi rhagor o gyllid mewn partneriaeth a’r ddwy Lywodraeth er mwyn cefnogi buddsoddiad yng nghymunedau’r rhanbarth drwy ddarparu swyddi o safon dda, ynghyd â thwf sylweddol a chynaliadwy.”

Bydd gwaith yn parhau o ddifrif drwy gydol y flwyddyn er mwyn anelu at gytuno ar Benawdau’r Telerau ar gyfer y Fargen Dwf yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cyn y gellir dod i Gytundeb Llawn unwaith y bydd achosion busnes ar lefel y rhaglen yn eu lle.

Dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yr Aelod Seneddol David TC Davies: “Bydd Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn cyfrannu at adferiad y rhanbarth yn dilyn pandemig y coronafeirws. Drwy gydweithio’n agos â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru, gallwn fanteisio ar gryfderau’r rhanbarth a gwireddu ei botensial yn llawn.

“Mae’r cynnydd a wnaed eisoes yn fy nghalonogi, ac edrychaf ymlaen at weld prosiectau’n cael eu datblygu a fydd yn creu swyddi a thwf economaidd.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Lee Waters: "Mae gan Fargen Dwf Canolbarth Cymru y potensial i chwarae rhan bwysig yn adferiad economaidd y rhanbarth yn dilyn y coronafeirws, ac rwy'n falch o weld y cynnydd a wnaed hyd yma.

"Er y cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig drwy amlinellu'r weledigaeth a'r map ffordd ar gyfer Bargen Dwf, mae angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu rhaglen o weithgareddau sy'n gallu dangos yn glir yr hyn y gellir ei gyflawni ar draws y rhanbarth a'r canlyniadau i'w cyflawni. Bydd hyn yn hollbwysig er mwyn cyrraedd sefyllfa lle gall y llywodraethau a'r rhanbarth gytuno ar benawdau’r telerau a phennu cyllid.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio'n agos ac mewn modd adeiladol gyda phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU er mwyn archwilio sut y gall Bargen Dwf fod o fudd i'r ardal a'i thrigolion."

Gellir gweld y ddogfen a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yma.

11/06/2020