Mae rhan o lwybr arfordirol Ceredigion rhwng Aberaeron ac Aberarth wedi disgyn ac wedi’i chau.

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd gadw draw rhag ofn y bydd mwy o symud.

Mae staff Cyngor Sir Ceredigion wedi bod ar y safle. Mae arwyddion a rhwystrau wedi cael eu gosod er mwyn atal y cyhoedd rhag defnyddio’r llwybr.

Mae llwybr dargyfeirio dros dro tra bod swyddogion yn archwilio’r safle ymhellach er mwyn penderfynu ar ddatrysiad mwy hirdymor.

Bydd rhannau ar bob pen i'r llwybr yn parhau ar agor; fodd bynnag, ni fydd yn bosibl teithio ar ei hyd yn gyfan a gofynnir i'r rheini sy'n chwilio am lwybr trwodd rhwng Aberaeron a Aberarth (neu i'r gwrthwyneb) ystyried defnyddio'r trywydd amgen ar hyd y palmant ger yr heol neu ar hyd y traeth yn ystod llanw isel a nodwyd ar y map.

13/02/2020