Wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws ddisgyn yng Ngheredigion, atgoffir pobl ei bod dal yn hollbwysig archebu prawf COVID-19 os oes ganddynt unrhyw symptomau.

Yr unig ffordd o sicrhau gwir ddarlun o sefyllfa’r coronafeirws yn ein sir yw cynnal y profion angenrheidiol. Atgoffir pobl felly ei bod yn hanfodol bwysig i archebu prawf os oes ganddynt unrhyw un o’r prif symptomau canlynol, sef: tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i arogl neu flas.

Dylai pobl hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, gan archebu prawf os oes ganddynt unrhyw amheuaeth y gallent fod wedi cael eu heintio. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r ffliw.

Gellir archebu prawf ar wefan Llywodraeth Cymru neu trwy ffonio 119.

Mae ffigurau diweddaraf y coronafeirws yng Ngheredigion, sef 34.4 i bob 100,000 o’r boblogaeth (ffigurau 01.02.2021) yn profi fod modd dod â’r feirws yn ôl i lefel y gellir ei rheoli trwy weithio gyda’n gilydd i aros adref a chadw pellter cymdeithasol bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi aberth pawb yn hyn o beth ac yn diolch i chi am gydweithio i wneud y peth iawn yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Er hyn, rhaid pwysleisio nad ydym wedi cyrraedd y lan eto. Mae haint y coronafeirws yn parhau yn hynod o beryglus yn ein cymunedau ac wedi dangos ei fod yn gallu lledaenu’n eithriadol o gyflym. Felly, nid nawr yw’r amser i laesu dwylo. Rhaid i bob un ohonom ddal ati i aros adref, cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo yn rheolaidd, a gwisgo masgiau mewn lleoliadau cyhoeddus hanfodol dan do. Dewch i ni barhau i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud mor dda hyd yma.

Yn ogystal â hyn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gefnogi a chydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu’r brechlynnau yn erbyn COVID-19. Erbyn hyn, mae 7,459 o bobl yng Ngheredigion wedi cael dôs cyntaf y brechlyn (ffigurau 28 Ionawr 2021).

Mae’r brechlynnau hyn yn gam pwysig ymlaen yn ein taith i oresgyn y coronafeirws. Er hyn, rhaid cofio nad ydynt yn cynnig amddiffyniad llwyr. Hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn, cofiwch fod yn rhaid i chi barhau i ddilyn yr holl reolau, gan gynnwys aros adref a chadw pellter cymdeithasol.

Byddwch yn cael eich gwahodd i gael y brechlyn yn eich tro, ac nid oes angen i chi archebu’r brechlyn eich hun. Mae rhagor o wybodaeth am y brechlynnau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Ceredigion a Chymru yn parhau ar Lefel Rhybudd 4, ac i ddarllen y rheolau sydd mewn grym, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth a chyngor am sefyllfa’r coronafeirws yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion neu gallwch ffonio 01545 570881

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

02/02/2021