Ers nifer o fisoedd, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion a Radio Aber wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i greu rhaglen radio wythnosol arloesol yn trafod popeth Cymraeg.

Mae’r rhaglen a ddarlledir bob dydd Iau am 12pm yn wahanol am ei bod yn gwneud hynny trwy gyfrwng Saesneg dan y pennawd Cymru United.

Neges allweddol y sioe yw bod yr Iaith Gymraeg yn perthyn i bawb – o siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i rai sydd efallai ond yn adnabod ychydig eiriau Cymraeg.

Dywedodd cyflwynydd y sioe, Rhodri Francis: “Rydym yn anghofio’n aml am gyfraniad enfawr y rhai di-Gymraeg i’r Gymraeg er enghraifft yr holl rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ond sydd wedi dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.”

Gan gyfuno cerddoriaeth a sgwrs, mae Rhodri Francis wedi bod yn ffodus i gael cwmni pob math o westeion i ddewis eu hoff ganeuon Cymraeg ac i drafod eu bywyd, eu gwaith a’u perthynas â’r Gymraeg ac ychwanegodd:

Ychwanega Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered: “Mae Ceredigion yn parhau i fod yn un o’r siroedd hynny lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol o ddydd i ddydd ond rhaid cofio bod dros 50% o’r boblogaeth yn ddi-Gymraeg a’r ffigwr sy’n gweld eu hunain yn Gymry ymhlith yr isaf yng Nghymru ar 52%. O’r herwydd, efallai mai rhaglen radio fel Cymru United yw’r math o arloesi sydd ei angen arnom er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant i bawb ac nid dim ond y rhai sydd eisoes yn gallu siarad Cymraeg.”

Mae Cymru United yn fyw ar Radio Aber am 12pm bob dydd Iau. I wrando ewch i Radio Aber 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered trwy e-bostio Rhodri.francis@ceredigion.gov.uk.

 

15/03/2022