Cynhaliodd Gwasanaeth Actif Ceredigion raglen weithgareddau cynhwysfawr am bedair wythnos dros yr haf unwaith eto eleni.

Roedd Rhaglen Haf Gwasanaeth Ceredigion Actif 2018 yn cynnig dros 20 o wahanol weithgareddau, chwaraeon a digwyddiadau i blant ledled y Sir yn ystod gwyliau’r haf.

Roedd y ddarpariaeth eleni yn canolbwyntio ar hwyl, ffitrwydd, gemau tîm ac amryw o chwaraeon a gemau. Nod Ceredigion Actif yw darparu gweithgareddau diogel, hygyrch ac amrywiol sy’n annog mwy o blant i fod yn fwy heini. Cafodd y gweithgareddau chwaraeon poblogaidd eu cynnal mewn awyrgylch hwyliog lle’r oedd yr holl gyfranogwyr yn gallu cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cyffrous a chwrdd â ffrindiau newydd.

Dywedodd Ian Macken, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Ceredigion Actif, “Dros y blynyddoedd, mae’r rhaglen haf wedi profi’n llwyddiant. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnig cyfleoedd hygyrch i blant yn ystod y gwyliau yn ogystal ag yn ystod y tymor, fel bod gweithgareddau corfforol ar gael i blant drwy gydol y flwyddyn drwy’r gwasanaeth Pobl Ifanc Egnïol mewn ysgolion a thrwy weithgareddau’r ganolfan hamdden.”

Cynhaliwyd gweithgareddau eraill megis dringo’r wal ddringo dan do, criced, ioga, seiclo a diwrnodau chwaraeon â thema hwyliog. Cafwyd diwrnod o syrffio a diwrnod glanhau’r traeth ar draethau Poppit, sef ychwanegiad newydd i raglen eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod y Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden, “Mae’n braf gweld Ceredigion Actif yn darparu gwasanaeth o ansawdd sy’n amlwg o fudd i’n plant dros gyfnod yr haf. Mae’r gweithgareddau yn gyfle gwych nid yn unig i fwynhau ond hefyd i gadw’n heini a datblygu ffitrwydd mewn modd cymdeithasol.”

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan wasanaeth Ceredigion Actif i’w gynnig dros y misoedd nesaf ac am fanylion am weithgareddau yn ystod hanner tymor yr hydref, ewch i’r wefan www.ceredigionactif.org.uk, y tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol.

20/09/2018