Mae amserlen brysur o weithgareddau cynhwysol wedi’u trefnu i’r plant dros wyliau’r haf ar draws Canolfannau Hamdden yn y sir sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion.

O bêl droed i sesiynau cestyll neidio, o sgiliau beicio i wersyll ar gyfer plant o dan 5, mae amrywiaeth eang o weithgareddau i ddewis ohono dros gyfnod yr haf.

Hefyd, bydd gwersyll a diwrnodau aml gampau yn cael eu cynnal mewn rhai canolfannau hamdden lle bydd plant yn medru mynychu am y diwrnod cyfan. Mae hyd yn oed taith am ddiwrnod i’r traeth gyda Canolfan Hamdden Teifi!

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Hamdden, “Mae’n wych i weld yr amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon llawn hwyl ar gael i blant o bob oedran a gallu yr haf yma yn ein canolfannau hamdden. Os ydych chi’n riant sy’n ansicr o beth sydd ar gael, cymerwch olwg ar amserlen eich canolfan hamdden ac archebwch le i’ch plentyn i gael hwyl, cadw’n heini a bod yn gymdeithasol dros yr haf.”

Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y gweithgareddau ac mae hawl gan staff y canolfannau i ohirio unrhyw sesiwn os na fydd digon o blant i’w cynnal.

Am ragor o wybodaeth ar weithgareddau dros yr haf i’r plant wedi’u trefnu yng Nghanolfannau Hamdden Cyngor Sir Ceredigion, ewch i wefan Ceredigion Actif. Gellir cael y diweddaraf trwy ddilyn tudalennau Ceredigion Actif ar Facebook a Trydar.

20/07/2018