Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dros bum wythnos yn ystod gwyliau’r haf eleni eto. Bydd y rhaglen yn cynnig dros deg o wahanol brosiectau, gweithgareddau, gweithdai a digwyddiadau i bobl ifanc rhwng 11-25 oed ar draws y sir.

Bydd y gweithgareddau a gweithdai yn cynnwys diwrnodau gweithgareddau dŵr, rhaglen cyflogadwyedd ac uwch-sgilio, beicio mynydd, crochenwaith, diwrnod gweithgareddau natur, cyfnewid rhyngwladol i’r Eidal a thaith i Sw Caer.

Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Gethin Jones, “Mae’r Rhaglen Haf wedi profi i fod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd. Mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i gynnig cyfleoedd targedol a mynediad agored i bobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf, yn ogystal ag ystod y tymor ysgol, fel ein bod yn rhoi cymorth ac yn ymgysylltu â phobl ifanc drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwych i bobl ifanc ar draws y sir i gymryd rhan ac yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr a phrofiadau addysgu iddynt i adeiladu ar sgiliau a datblygu hyder a hunan-barch."

Eleni, bydd gweithgareddau yn canolbwyntio ar bynciau megis cyflogadwyedd ac uwch-sgilio, iechyd a lles, cyfranogiad, integreiddio, chwaraeon a hamdden a'r amgylchedd. Caiff pobl ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a rhai sydd ganddynt eisoes megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau, pob un mewn amgylchedd anffurfiol, llawn hwyl lle byddant yn gallu cwrdd â phobl newydd, cael achrediadau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Mae’n braf gweld Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn darparu gwasanaeth o safon sydd yn amlwg o fudd i’n pobl ifanc sydd am fwynhau digwyddiadau dros yr hâf. Mae’r digwyddiadau yn gyfleoedd gwych, nid yn unig i fwynhau, ond hefyd i ddatblygu yn addysgiadol, yn bersonol ac yn gymdeithasol.”

Am ragor o wybodaeth am hyn y mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ei gynnig, ewch i’w gwefan, www.giceredigionys.co.uk a tudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS neu cysylltwch ar 01545572352 neu youth@ceredigion.gov.uk.

 

23/07/2018