Mae lefelau Coronafeirws yn cynyddu yn sylweddol ar draws y sir.

Bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener 03 Medi, felly mae'n rhaid i ni gadw at arfer dda er mwyn sicrhau eu bod yn dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel.

Mae'r lefelau presennol yn dangos nifer yr achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth ar draws y sir ar ei lefel uchaf erioed, sef 337 fesul 100,000.

Mae rhai rhannau o'r Sir hyd yn oed yn uwch gyda De Aberystwyth ar 522.9 fesul 100,000; Aberteifi ac Aberporth ar 439.3 fesul 100,000; Beulah, Troedyraur a Llandysul ar 351.8/100,000; a Gogledd Aberystwyth ar 350.9/100,000. Mae pob ardal yng Ngheredigion yn uwch na 230 fesul 100,000 sy'n dangos bod y feirws yn lledaenu'n gyflym iawn o fewn y gymuned ac rydym yn disgwyl i nifer yr achosion gynyddu ymhellach dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Yn ogystal, mae canran y rhai sy'n cael eu profi’n positif wedi cynyddu i 16.6%, sy'n bryder sylweddol.

Mae'r data'n dangos i ni fod y rhan fwyaf o'r achosion hyn yn y bobl 25 oed ac iau, sydd ar hyn o bryd yn 555.5 fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Ngheredigion ac mae’n cynyddu. Rydym hefyd yn gweld nifer o achosion mewn plant o dan 10 oed.

Mae'r rhai sy'n 16 oed a hyn bellach yn cael eu gwahodd am y brechlyn ac rydym yn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cynnig i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel rhag effaith COVID-19. Mae canolfannau brechu cerdded i mewn ar gael ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/canolfannau-brechu-torfol/

Mae'n amlwg bod y pandemig ymhell o fod ar ben, ond drwy ddilyn arferion da fel gwisgo mwgwd mewn mannau prysur, gan gynnwys siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus, cynnal hylendid dwylo da a chynnal pellter cymdeithasol yn ogystal â manteisio ar y cynnig o'r ddau ddos o'r brechlyn, gallwn leihau effaith waethaf COVID-19 yng Ngheredigion.

Rhaid i chi hunanynysu ar unwaith am 10 diwrnod ar yr arwydd cyntaf o unrhyw symptomau COVID-19 sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i synnwyr arogl neu flas. Gallwch archebu prawf PCR drwy www.llyw.cymru/cael eich profi-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Er mwyn helpu i nodi achosion cudd o COVID-19 yn ein cymunedau wrth i amrywiolion newydd o’r feirws ymddangos, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn eich annog i gael prawf os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol a’u bod yn newydd, yn barhaus a/neu yn anghyffredin i chi:

  • symptomau annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • symptomau tebyg i'r ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder eithafol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu’n dynn; tisian parhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian; cyfogi; neu ddolur rhydd 
  • teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt ag achos hysbys o COVID-19
  • unrhyw newid mewn symptomau neu symptomau newydd yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Hyd yn oed os ydych wedi cael y ddau frechlyn, cofiwch olchi eich dwylo’n rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Trwy ddilyn yr arferion da yma gallwn wneud ein rhan i ddiogelu Ceredigion.

02/09/2021