Daw pryder ynghylch lefelau o’r Coronafeirws ar gynyddu yng Ngheredigion.

Mae'r ffigurau diweddaraf ar 11 Gorffennaf 2021 yn dangos bod 59 o achosion newydd wedi bod dros y 7 diwrnod diwethaf sy'n mynd â'r sir i 81.2 fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae hyn yn cymharu â lefel o 9.6 fesul 100 mil 4 wythnos yn ôl ac hwn yw’r gyfradd achosion uchaf yng Ngheredigion ers diwedd Ionawr 2021. Yr ydym yn disgwyl i nifer yr achosion gynyddu ymhellach dros y dyddiau nesaf ac mae hyn yn golygu ein bod nawr ar ddechrau’r drydedd don.  

Rydym yn pryderu'n arbennig am lefel y cynnydd yng Ngogledd y Sir mewn ardaloedd fel Borth a Bontgoch sydd wedi cyrraedd 215.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth ac ardal Gogledd Aberystwyth ar 169.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gydag ardaloedd eraill ar draws y Sir yn gweld cynnydd (7 diwrnod rhwng 1 a 7 Gorffennaf). Mae’r cynnydd yn cael effaith ar achosion yn ysgolion y Sir gyda nifer o ddisgyblion yn gorfod hunanynysu.

Mae ein tîm Ôl-rhain Cysylltiadau yn gallu gweld bod gan lawer o'r unigolion sydd wedi'u heintio gyfraddau uchel o grwpiau cyswllt. Rydym yn annog y rhai sy'n gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â hwy ac unigolyn sydd wedi'i heintio i hunanynysu ar unwaith ac i gael prawf.

Os bydd Swyddog Ôlrhain Cysylltiadau Cyngor Sir Ceredigion yn cysylltu â chi, byddwch yn onest am ble rydych chi wedi bod a'r bobl rydych chi wedi cwrdd â nhw. Ni fydd ein Swyddogion Ôlrhain Cysylltiadau yn eich barnu. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws ac achub bywydau.

Rydym yn eich annog i barhau i ddilyn y rheoliadau. I chwarae eich rhan ac i gadw'ch gilydd yn ddiogel, cofiwch wneud y canlynol:

  • Cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eich gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl;
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Byddwch yn ymwybodol o symptomau COVID-19. Mae symptomau COVID-19 yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Ond hefyd, mae’r symptomau cynnar yn gallu cynnwys pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Mae Hywel Dda wedi sefydlu clinigau brechu Cerdded i Mewn i alluogi trigolion Ceredigion i gael eu brechlyn cyntaf neu ail frechlyn heb orfod cael apwyntiad. Rhaid i breswylwyr sydd eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf aros 8 wythnos cyn iddynt gael eu hail frechlyn.

Gyda'r cynnydd mewn achosion ar draws y sir mae'n bwysig bod cymaint o bobl yn dod ymlaen am eu brechlynnau cyntaf a'u hail frechlynnau cyn gynted â phosibl. Os byddai'n well gennych gael apwyntiad, gallwch gysylltu â thîm archebu Hywel Dda ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.hduhb.nhs.wales.

13/07/2021