Danfonwyd llythyr o Geredigion i Senedd Cymru ynghlŷn a pryder am yr iaith Gymraeg mewn ysgolion yn ôl y Bil Cwricwlwm ac Asesu arfaethedig.

Danfonwyd y llythyr ar y cyd wrth Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet: Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth at sylw Kirsty Williams CBE AS ac Eluned Morgan AS.

Nodir yn y Bil mai cyfrifoldeb Penaethiaid a Chyrff Llywodraethol unigol fydd p’un ai i drochi plant yn y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ai peidio. Erbyn heddiw, mae dros 80% o ddisgyblion 7 oed Ceredigion yn gwbl ddwyieithog o ganlyniad i’r trochi ieithyddol hynod effeithiol sy’n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen.

Yn y llythyr, nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a’r Cynghorydd Catrin Miles eu consyrn y gallai beryglu’r sefyllfa yng Ngheredigion, ac ar draws Cymru, “Tra bod rôl greiddiol ac allweddol gan Gyrff Llywodraethol, ni theimlwn mai eu rôl nhw yw gosod Polisi Iaith ar ran Awdurdod Addysg Lleol. Yn wir, gallai rhoi yr hawl iddynt osod polisi, arwain at benderfyniadau ysgolion unigol a fydd yn tanseilio Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg Awdurdodau Lleol. Yn anffodus, o dan gynnig y Bil ni fyddwn yn medru rhoi sicrwydd ein bod bellach mewn sefyllfa i gyrraedd y targedau gofynol.”

“Hyderwn fod datrysiadau ar y gweill er lles datblygu Cymru’n wlad ddwyieithog yn unol â’n dyheadau ni oll.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd yn fuan.

09/06/2020