O dymor yr Hydref ymlaen, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynnig Prydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan ddechrau gyda dosbarthiadau Derbyn o fis Medi 2022.

Mewn ymateb i'r cynnydd diweddar mewn costau byw, mae hwn yn gam positif ymlaen o ran sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol ac yn mynd i'r afael â thlodi yn ein Sir.

O ddydd Llun 5 Medi 2022 ymlaen, bydd pob Plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ysgolion Ceredigion yn cael cynnig Prydau Ysgol am Ddim, gan ymestyn y cynnig y tu hwnt i’r hyn sydd angen ei wneud erbyn Medi.

Mae Chyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu'r cynllun hwn yn gyflym a byddem yn gofyn am eich amynedd wrth i ni feithrin y gallu i sicrhau gweithrediad graddol llwyddiannus a gweithio tuag at gyflwyno'r ysgol gyfan yn raddol dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses i chi allu gofyn am bryd o fwyd am ddim i'ch plentyn/plant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi ymlaen gan geisio osgoi unrhyw faich diangen i chi.

Os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd a/neu fudd-daliadau cysylltiedig eraill, na fydd hyn yn effeithio arnynt.

Wyn Thomas, yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Nod y Llywodraeth yw bod Awdurdodau Lleol Cymru yn darparu pryd ysgol am ddim i ddisgyblion dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022. Mae’r Cyngor wedi manteisio ar hyblygrwydd y cynllun ac felly bydd mwy o ddisgyblion yng Ngheredigion yn elwa o’r cynnig o bryd bwyd am ddim i ddisgyblion dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym Medi 2022 yn ysgolion y Sir.”

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn erbyn diwedd y tymor. 

21/06/2022