Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn cefnogi dau brosiect peilot iechyd meddwl arloesol sy'n anelu at helpu pobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yng Ngheredigion - Amethyst ac Yma i Chi. Mae Cynnal y Cardi yn cael ei weinyddu gan Gynor Sir Ceredigion.

Gwnaeth ymchwil gan Sefydliad Iechyd Meddwl yn 2015 darganfod bod 1 o bob 4 oedolyn, ac 1 o bob 10 plentyn yn debygol o gael problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn cychwyn yn ystod plentyndod neu lencyndod.

Mae Yma i Chi yn brosiect peilot dwy flynedd gan Elusen Ieuenctid Ceredigion - Area 43. Mae'r prosiect yma yn cynnig gwasanaeth cwnsela ar-lein am ddim, sy'n cefnogi'r rheini rhwng 16 a 30 oed. Mae’r prosiect yn gwneud hyn gan fod llawer o bobl ifanc yn osgoi neu'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethau cymorth presennol am ystod o resymau gan gynnwys anargaeledd a hyder isel.

Dywedodd defnyddiwr gwasanaeth, “Roedd y gwasanaeth wir wedi gweithio i mi, roedd nifer y sesiynau a oedd ar gael yn golygu y gallwn archwilio materion yn iawn heb deimlo ar frys. Roedd yn hyblyg ac yn caniatáu imi dderbyn cwnsela pan oedd yn addas i mi.”

Mae prosiect Amethyst yn brosiect peilot dwy flynedd gan Theatr Byd Bychan. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n profi problemau yn ymwneud â phryder, iselder ysbryd, hwyliau isel, hunan-niweidio, syniadaeth hunanladdol, hyder isel a hunan-barch isel trwy dreialu gweithgareddau sy'n gwella llesiant unigolion a chymunedau.

Dywedodd Deri Morgan, Rheolwr Prosiect Amethyst, “Mae Amethyst yn creu lle diogel lle mae pobl ifanc yn teimlo'n gartrefol ac yn gyffyrddus i rannu eu profiadau ac yn hyderus y bydd eu preifatrwydd yn cael ei barchu. Defnyddir set unigryw o dechnegau i helpu cyfranogwyr i archwilio eu perthynas â nhw eu hunain ac eraill, i nodi'r rhwystrau sy'n eu hwynebu yn eu bywydau a chwilio am atebion cadarnhaol."

Mae canlyniadau cadarnhaol Amethyst yn amlwg yn adborth cyfranogwyr, “Nid yn unig tactegau sy'n helpu gydag iselder a phryder, ond mae'n helpu gyda phethau eraill y tu allan i'r Prosiect Amethyst fel dicter a phethau ... nid y cwnselwyr a'r gweithwyr yn unig, ond y bobl eraill sy'n dod i Amethyst sydd wedi bod yn gefnogol.”

Ariennir Amethyst a Here for You trwy gynllun LEADER Cynnal y Cardi a chyllidwyd drwy raglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan a Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Mae’n wych gweld prosiectau peilot arloesol yng Ngheredigion yn gwneud gwaith mor hanfodol wrth gefnogi iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl yn bwysig ym mhob cam o fywyd, o blentyndod yr holl ffordd drwodd i fod yn oedolyn. Rydym yn falch o allu cefnogi gwaith mor bwysig.”

Am fwy o wybodaeth am brosiect Amethyst e-bostiwch deri@smallworld.org.uk. Ar gyfer y prosiect Yma i Chi e-bostiwch dropin@area43.co.uk.

Am fwy o fanylion am brosiectau cyfredol Cynnal y Cardi, ffoniwch y tîm ar 01545 572063 neu e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

 

29/08/2019