Daeth dros ddeugain o fusnesau a sefydliadau ar draws Sir Ceredigion, Caerfyrddin a Sir Benfro at ei gilydd yn ddiweddar i gael gwybod sut y gallant fod yn rhan o brosiect twristiaeth newydd cyffrous o’r enw ‘Llwybrau Celtaidd’.

Mae Llwybrau Celtaidd yn brosiect ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Ceredigion, Caerfyrddin ac Awdurdod Parc Genedlaethol Arfordir Penfro yng Nghymru a Chynghorau Sir Wicklow, Wexford a Waterford yn Iwerddon. Mae’r prosiect yn werth £1.75 ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru (2014-2020).

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, “Nod y prosiect Llwybrau Celtaidd yw annog ymwelwyr sy’n rhuthro drwy’r cyrchfannau partner ar hyn o bryd ar eu ffordd i lefydd mwy adnabyddus i roi amser i ddarganfod yr ardaloedd gwledig yma ac i’w hannog i ymweld fyw nag unwaith yn y dyfodol, a thrwy hynny roi hwb i’r economi leol.

Mae’r prosiect wedi datblygu hyd yma trwy ymchwil cwsmeriaid a gweithdai i adnabod holl gyfoeth yr ardaloedd yn ôl thema, ac ymchwiliad i botensial y farchnad.

Y cam nesaf fydd cyfres o weithdai lle bydd busnesau ar draws de orllewin Cymru a de ddwyrain Iwerddon yn cael cyfle i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt i gydweithio drwy’r prosiect, gan gynnwys dysgu oddi wrth fusnesau eraill a rhannu arferion gorau.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect yma, cysylltwch â croeso@ceredigion.gov.uk.

06/06/2019