Gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd, mae prosiect mawr wedi’i lansio gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc NEET (y rhai nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) ar draws Gorllewin Cymru.

Bydd y prosiect Cam Nesa yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed trwy gynnig opsiynau iddynt i gael ystod o gefnogaeth bersonol sydd wedi’i theilwra’n arbennig ar eu cyfer. Yn ogystal â hynny, byddant yn cael cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i ddiwallu eu hanghenion a’u dyheadau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae hwn yn gam gwych er mwyn sicrhau bod gan bob person ifanc yng Ngheredigion y gefnogaeth sydd angen i ffynnu ac i gyrraedd eu potensial. Bydd prosiect fel hwn nid yn unig o fudd i bobl ifanc, ond hefyd i’w cymunedau.”

Gwerth y prosiect yw £5.7 miliwn ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bydd yn rhedeg dros y ddwy flynedd nesaf. Tybir y bydd yn gweithio gyda 2,000 o bobl ifanc ar draws Gorllewin Cymru.

Dywedodd Elen James, Pennaeth Ymgysylltu Ieuenctid ac Addysg Barhaus Ceredigion, “Bydd lles economaidd a chymdeithasol pobl ifanc ddi-waith yng Ngheredigion yn elwa ar y cyfleoedd ychwanegol a ddarperir gan y prosiect Cam Nesa. Y nod yw cynyddu hyd yr eithaf y cyfranogiad a wneir gan bobl ifanc ôl 16 mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ac mae hyn yn un o flaenoriaethau Cyngor Sir Ceredigion.”

Arweinir Cam Nesa gan Gyngor Sir Penfro ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â chyd-awdurdodau lleol yn siroedd Ceredigion, Penfro, Caerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Fe’i lansiwyd ddydd Llun, 5 Mawrth yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd.

19/03/2018