Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi derbyn grant £99,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddatblygu darpariaeth symudol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn rhan o’r Porth Cymorth Cynnar, sef gwasanaeth help, cymorth ac ymyrraeth gynnar integredig newydd Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cefnogi cymunedau, plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed.

Esboniodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, Gwasanaeth Cymorth ac Ymyrraeth: "Nod y prosiect hwn yw sefydlu canolfan ieuenctid symudol, gan ymestyn ein darpariaeth ieuenctid i ardaloedd gwledig ar draws Ceredigion, darparu rhaglenni pwrpasol a darpariaeth hyblyg i ymgysylltu â phobl ifanc, yn arbennig y rhai dan anfantais, pobl fregus a rhai sydd angen cymorth. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i gynnal cymorth o bell, llawer yn gweithio o gartref a llawer yn cael eu hadleoli. Ers hynny rydym wedi gallu datblygu rhith bresenoldeb cadarnhaol, ac mae'r prosiect hwn yn mynd i fod yn arwyddocaol o ran ein helpu i ailsefydlu ein cefnogaeth wyneb i wyneb yn y dyfodol agos, a gweithio gyda'n partneriaid agos a rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl lle mae ei angen fwyaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Loteri Genedlaethol am roi'r cyfle hwn i ni gryfhau ein gwasanaethau ac yn ein galluogi i weithio'n agosach gyda gwasanaethau lleol pwysig i gefnogi cymunedau ar draws Ceredigion. "

Bydd y prosiect yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd i breswylwyr gael cyngor a chymorth drwy weithdai, sesiynau blasu, sesiynau galw i mewn a chlybiau amrywiol a fydd yn anelu at hyrwyddo addysg, iechyd a lles.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: "Mae hyn yn newyddion gwych i Geredigion. Gwn mor galed y mae'r gwasanaeth ieuenctid wedi gweithio dros y blynyddoedd diwethaf i ddangos yr angen am y prosiect hwn ac sydd wedi hyrwyddo llais cryf pobl ifanc. Plant a phobl ifanc sydd wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r prosiect hwn, gyda dros 500 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad dros gyfnod o dair blynedd, ac rwy'n hyderus y byddant yn parhau i gefnogi ac arwain y prosiect i gyrraedd cymaint o bobl a chymunedau â phosibl. Rwy'n wirioneddol gyffrous o weld y prosiect hwn yn datblygu ".

Os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn, neu er mwyn gwybod sut y gall y Loteri Genedlaethol gefnogi eich syniadau ar gyfer prosiectau, cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion drwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS, ffoniwch 01545 572352 neu anfonwch neges e-bost i youth@ceredigion.gov.uk.

08/06/2020