Mae aelodau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion wedi bod yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o droseddau bregusrwydd yn y sir a’u hatal.

Gyda chyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, nod y prosiect yw cyrraedd y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymunedau. Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion wedi comisiynu sesiynau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar Gyflwyniad i Droseddau Bregusrwydd a Gweithdrefnau Rhannu Gwybodaeth.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol. Dywedodd: "Mae COVID-19 wedi golygu y bu dibyniaeth gref ar gymorth rhwydwaith cymunedol a lleol tra bod y cyfyngiadau ar waith. Mae gwirfoddolwyr grwpiau cymorth cymunedol, cynghorau tref a chymuned a sefydliadau'r trydydd sector wedi bod ar y rheng flaen wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf ynysig yng Ngheredigion yn rhan o'r ymateb brys."

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth angenrheidiol i gymunedau i nodi ac adrodd i'r asiantaethau cymorth perthnasol os byddant yn pryderu y gallai unigolyn fod mewn perygl o ymddygiad troseddol. Er y bu rhai enghreifftiau calonogol o gymunedau'n cyd-dynnu, rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y rhai sy'n ceisio manteisio ar yr amgylchiadau anffodus.

Mae'r sesiynau wedi'u hanelu at weithwyr cymunedol rheng flaen a allai ddod i gysylltiad ag unigolion sy'n agored i niwed yn rhan o'u gwaith bob dydd neu drwy wirfoddoli. Bydd y sesiynau'n rhoi trosolwg o'r hyn y gellid ei ystyried yn drosedd bregusrwydd, gan nodi pwy allai fod mewn perygl ac arwyddion i gadw golwg amdanynt, yn ogystal ag amlinellu sut i gefnogi ac adrodd am unrhyw bryderon i’r asiantaethau cymorth priodol.

Bydd ail elfen y prosiect yn ategu'r negeseuon yn yr hyfforddiant, ac yn canolbwyntio ar ymgyrch ymwybyddiaeth sydd wedi'i hanelu at y cyhoedd a fydd yn annog preswylwyr i weithredu fel llygaid a chlustiau eu cymunedau drwy amlinellu arwyddion o bryder y dylid bod yn ymwybodol ohonynt, a sut i gefnogi ac adrodd yn ôl yr angen.

Mae’r sesiynau am ddim ac yn cael eu cynnal yn rhithiol ym mis Chwefror a Mawrth. Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, anfonwch e-bost at dysgu@ceredigion.gov.uk.

14/01/2021