Mae’r prosiect €1.95 miliwn hwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltu cynaliadwy, ac o ganlyniad, sefydlu dau rwydwaith ‘twristiaeth a diwydiant drwy brofiad’ trawsffiniol newydd

Mae’n bleser o’r mwyaf gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i helpu cyflawni Portalis, prosiect peilot trawsddisgyblaethol a thrawsffiniol newydd a wnaiff archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng yr Iwerddon a Chymru.

Mae Portalis yn mapio hanes y daith ddynol gyntaf rhwng yr Iwerddon a Chymru, sy’n dyddio o’r cyfnod Mesolithig, yng nghyd-destun gwydnwch cyfoes ac addasiad cymunedau arfordirol lleol a’u hymwelwyr i’r hinsawdd. Caiff hyn ei gyflawni drwy atgyfnerthu’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli gyda data newydd er mwyn datblygu naratif trawsffiniol grymus newydd sy’n gyraeddadwy fel rhan o brofiad newydd i ymwelwyr, ac a leolir yn Waterford Museum of Treasures, Iwerddon ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru.

Mae’r prosiect €1.95 miliwn hwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltu cynaliadwy gan gymunedau a busnesau, ac o ganlyniad, sefydlu dau rwydwaith ‘twristiaeth a diwylliant drwy brofiad’ newydd yng Nghymru ac Iwerddon.

Meddai Michael McGrath, TD, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Iwerddon: “Y mae cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol, academaidd ac economaidd cydgysylltiol ac arbennig yn cysylltu cymunedau Iwerddon a Chymru dros Fôr Iwerddon. Nid yw’r Môr hwn yn rhwystr ond yn hytrach, man a rennir a rhywbeth sy’n cysylltu pobloedd â’i gilydd. Wrth ddatblygu’r prosiect hwn er mwyn creu naratif newydd, dymunaf bob llwyddiant i’r Prosiect Portalis, ac rwy’n llongyfarch y partneriaid am ddod o hyd i gyllid gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020. Dylid cymeradwyo’r dull o ddefnyddio technegau archaeolegol traddodiadol mewn cyfuniad â thechnolegau digidol, wrth ymglymu’n agos cymunedau lleol er mwyn amlygu ein treftadaeth naturiol a diwylliannol a rennir, ac mae hwn yn haeddu cael ei gefnogi’n fawr. Fel pob prosiect arall a gaiff ei ariannu drwy’r Rhaglen UE hon, mae’n symbol gweladwy o’r cydweithrediad cyfredol agos sy’n parhau i fodoli rhwng Cymru a De-ddwyrain Iwerddon.”

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu datblygiad prosiectau a wnaiff gryfhau ein perthnasau gyda’n cymydog Ewropeaidd agosaf, a gwnaiff y prosiect hwn ddarparu mewnwelediad aruthrol ar gyfer archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru.”

Wedi’i gefnogi gan €1.5 miliwn oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru, caiff y prosiect ei arwain gan Sefydliad Technoleg Waterford (Waterford Institute of Technology - WIT), gyda chefnogaeth PCYDDS, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

Rhaglen arfordirol yw rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020 (Ireland Wales 2014-2020 European Territorial Co-operation (ETC) programme), sy’n cysylltu busnesau a chymunedau ar arfordir Gorllewin Cymru â rhai ar arfordir De-ddwyrain Iwerddon. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar chwilio am ddatrysiadau i heriau a rennir, gan gynnwys addasiad cymunedau Môr Iwerddon a chymunedau arfordirol i newid yn yr hinsawdd, ac adnoddau diwylliannol a naturiol, yn ogystal â threftadaeth.

Mae’r prosiect peilot 20 mis hwn, sy’n cychwyn ym mis Chwefror, yn cynnwys amrywiaeth o wahanol dechnegau, gan gynnwys samplu creiddiau driliedig, cloddio, dadansoddiad labordy, archaeoleg dinasyddion, dylunio profiad ymwelwyr gan ddefnyddio ffilm a realiti rhithwir, ap newydd gydag arddangosfa 3D ar-lein, a datblygu rhwydweithiau sydd wedi’u teilwra.

Meddai Dr Jeremy Smith, Deon Cynorthwyol yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym wrth ein boddau i fod yn bartneriaid ar brosiect Portalis. Mae ein hadran Archaeoleg, a leolir yn Llambed, yn cynnal ymchwil o’r radd flaenaf, ac mae Portalis yn gyfle gwerthfawr i atgyfnerthu’r gwaith hwnnw ymhellach wrth i ni gydweithio gyda phartneriaid y prosiect i archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng gwareiddiadau arfordirol Cymru ac Iwerddon”.

Meddai’r Athro Martin Bates, Academydd Arweiniol y prosiect yn Y Drindod Dewi Sant: “Dyma gyfle gwych, drwy arwain timau ar ddwy ochr Môr Iwerddon, i wir fynd i’r afael â rhai o dirweddau ein hynafiaid cynnar a ddychwelodd i Gymru ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym wedi bod yn ymchwilio i’r storïau hyn am nifer o flynyddoedd, a gwnaiff y cyllid ein galluogi ni i drosglwyddo’r hanes hwn i’r bobl leol ac i ymwelwyr.”

Meddai Gary Clifford, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnacheiddio y Drindod Dewi Sant, a phennaeth newydd INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter - Institute for Sustainable Practice, Innovation, Research and Enterprise): “Gwnaeth INSPIRE chwarae rôl allweddol wrth weithio gyda chydweithwyr academaidd yn Llambed i sicrhau’r cyllid newydd hwn i’r Brifysgol. Bydd Portalis yn cyflenwi mentrau cyffrous eraill sy’n digwydd ar ein campws yn Llambed, gan gynnwys Canolfan Tir Glas.”

Ychwanegodd Chris Holtom, a arweiniodd ddatblygiad y cynnig i INSPIRE: “Mae Portalis yn cynnig cyfle rhagorol i adeiladu ar brofiad llwyddiannus y Drindod Dewi Sant o drosglwyddo gwybodaeth ac ymgysylltu â chymunedau. Gwnaiff hefyd atgyfnerthu ein cysylltiadau â Chyngor Sir Ceredigion a datblygu ymhellach ein cydweithrediad rhyngwladol hirsefydlog â’r Iwerddon.”

Meddai Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Cymorth Cynnar Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae’n bleser mawr gan Gyngor Sir Ceredigion i fod yn bartner ar y prosiect Portalis. Gwnaiff gynnig cyfle unigryw i Amgueddfa Ceredigion i archwilio bywydau ac amgylchedd rhai o’r bobl gynharaf i fyw ar hyd ein harfordiroedd yma yng Nghymru ac yn yr Iwerddon, treftadaeth a gaiff ei rhannu drwy gyfuniad o archaeoleg sy’n torri tir newydd ac arddangosfeydd o’r radd flaenaf.”

Dywedodd Dr Suzanne Denieffe, Pennaeth Ysgol y Dyniaethau yn WIT: “Rydym wrth ein boddau y byddwn yn arwain prosiect Portalis. Mae’r prosiect hwn yn bwysig ac yn amserol oherwydd mae’n cyflenwi strategaethau allweddol a dogfennau polisi Iwerddon a Chymru, yn ogystal â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae’r cyfoeth unigryw o safleoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol sy’n genedlaethol bwysig ac o fewn awdurdodaeth y gweithredu ar y cyd, yn ogystal â’r gweithgareddau prosiect a amlinellir, yn darparu data trawsffiniol newydd a rennir, a gwnaiff hyn, yn ei dro, danategu ymchwil pellach.

Ychwanegodd Joy Rooney, Uwch-swyddog Cyfrifol Portalis, (SRO), a Darlithydd ac Ymchwilydd Dylunio yn WIT: “Mae Portalis yn adeiladu ar dros 40 mlynedd o ymchwil a 10,000 o flynyddoedd o dreftadaeth a rennir. Mae Portalis yn cael ei arwain drwy gyfrwng dylunio, ac yn darparu profiad ymwelwyr trawsffiniol newydd sy’n unigryw ac yn gymhellol mewn dwy amgueddfa allweddol, yn ogystal ag ar safleoedd profiad pen taith cymunedau arfordirol cysylltiedig.”

Mae croeso i gymunedau Iwerddon a Chymru ymuno â’r tîm Portalis wrth iddo ddarganfod a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a naturiol a rennir, cyfrannu at ymchwil newydd sy’n archwilio heriau newid yn yr hinsawdd arfordirol drwy Raglenni Archaeoleg Gyhoeddus a Gwyddonwyr-ddinasyddion, ac wrth wneud hynny, helpu olrhain, o bosib, olion traed y sawl a wnaeth y daith gyntaf a’r cysylltiad diwylliannol cyntaf rhwng Cymru a’r Iwerddon.

I ddarganfod mwy, ymwelwch â: http://portalisproject.eu/#1645183341399-d97596b3-4dc8 /

https://www.wit.ie/research/centres_and_groups/interreg_networks_and_initiatives/

21/02/2022