Wrth ymdrin â materion iechyd a gofal, mae gwybod bod eich anghenion a’ch gofynion mewn dwylo diogel a phrofiadol yn rhoi tawelwch meddwl amhrisiadwy – a dyna’n union beth y mae Porth Ceredigion yn ei wneud.

Partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion – Porth Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r gwasanaeth hwn, sy’n gweithio’n agos â sefydliadau trydydd sector a Gofal Sylfaenol. Mae’n canolbwyntio ar wella llif gwybodaeth rhwng asiantaethau er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyflymach a bod gofal a chymorth yn gallu cael eu darparu i bobl mewn ffordd mwy cyson a chydlynol.

Bydd atgyfeiriad at Borth Ceredigion yn cyfeirio unigolyn at Weithiwr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Nyrs Ardal, neu’r Gwasanaethau Teuluoedd a Phlant.

Bydd tîm integredig o weithwyr proffesiynol yn ystyried pob atgyfeiriad newydd yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr ymateb mwyaf priodol yn cael ei roi ar waith. Yna, bydd cymorth pwrpasol yn cael ei drafod â’r unigolyn i gefnogi ei les.
Mae’r gwasanaeth yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer cymorth, gwybodaeth a chyngor ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol i drigolion Ceredigion ac yn gwella’r cyswllt rhwng pobl a’u cymunedau. Mae sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i bob sgwrs yn allweddol.

Mae enghreifftiau o'r gwaith yn cynnwys helpu plant ac oedolion i aros yn eu cartrefi eu hunain drwy ddarparu cymorth dwys di-dor cofleidiol neu adsefydlu. Mae'r gwasanaeth hefyd yn ceisio lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty neu dderbyn gofal hirdymor. Enghraifft arall yw lleihau unrhyw oedi o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty drwy eu hasesu yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn ysbyty. Cefnogir gofalwyr hefyd i gynnal eu hiechyd, eu lles a'u
hansawdd bywyd eu hunain.

Bydd galwad gychwynnol i Clic (gwasanaeth cwsmeriaid) yn rhoi mynediad i Borth Ceredigion lle bydd un o'r chwe swyddog dwyieithog yn gallu eich helpu i gael gafael ar wasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant, gan gynnwys diogelu. Bydd y sgyrsiau cychwynnol yn ymwneud â pham eich bod chi neu’r person yr ydych yn ffonio amdanynt yn pryderu, beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a sut yr hoffech wneud hynny. Os byddwch yn galw ar ran rhywun arall, byddai angen eu caniatâd arnoch chi, oni bai eich bod yn pryderu eu bod mewn perygl o gael niwed.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Borth Ceredigion ar wefan Cyngor Sir Ceredigion neu ffoniwch Porth Ceredigion ar 01545 574000.

03/09/2020