Cafodd pobl ifanc y cyfle i fynd ar gwrs undydd yn ddiweddar i’w paratoi ar gyfer byd gwaith yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth ym Mhenrhyncoch. Roedd y digwyddiad o ganlyniad i Gam Nesa – Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’i ariannu’n rhannol drwy Lywodraeth Cymru – i gydweithio gyda’r cwmni adeiladu Willmott Dixon.

Grwp o pobl ifanc ar safle adeiladuProsiect yw Cam Nesa sy’n cefnogi un o nodau’r cyngor sy’n sicrhau bod dysgwyr sy’n hyn nag 16 ac oedolion ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gystadlu yn yr economi leol a bod rhaglenni hyfforddiant priodol ar gael yn haws i’r rheiny sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad waith.

Elen James yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion dros Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant. Dywedodd  “Mae Cam Nesa yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith, 16-24 oed, i gael cymorth personol amrywiol sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith sy’n bodloni eu hanghenion a’u dyheadau.”

Fe fuodd grŵp Cam Nesa i Ganolfan Addysg Gymunedol Dysgu Bro yn ddiweddar i wneud y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, lle cawson nhw eu cymhwyster Sgiliau Adeiladu i brofi eu bod wedi cael yr hyfforddiant priodol i gael gwaith yn y diwydiant adeiladu.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Dywedodd,  “Mae’r fenter yn enghraifft o sut mae mantais gymunedol  fel mentrau addysgol, cymunedol ac amgylcheddol wedi’i rhoi ar waith gan Brifysgol Aberystwyth yn y Ganolfan Arloesi ac Ymchwilio a sut mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio â thîm Willmott Dixon gyda’r nod o uwchsgilio a thywys pobl ifanc i fyd gwaith.”

Nicola Millard yw Rheolwr Cymunedol Cynorthwyol Willmott Dixon. Dywedodd, “Roedd yn wych gallu darparu ein academi ‘Building Lives’ i’r bobl ifanc sy’n rhan o brosiect Cam Nesa. Mae’r hyfforddiant yn rhan o’n cynllun i roi gwerth cymdeithasol i’r prosiect sydd gennym ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth. Gobeithio bydd yr hyfforddiant yn sbardun da i fyd gwaith i’r bobl ifanc hyn.”

Gall y tîm Cam Nesa weithio ar sail un i un gydag unigolion i fagu hyder, cynnig cefnogaeth emosiynol a’u helpu i symud ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. 

Os hoffech dderbyn fwy o wybodaeth amdan y prosiect Cam Nesa, cysylltwch â Michael Pritchard ar 01970 633632 neu drwy e-bost ar Michael.pritchard@ceredigion.gov.uk

23/07/2019